skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Rhianta Caerdydd - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 12/12/2025
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Ein nod yw cefnogi rhieni a gofalwyr i gryfhau eich perthynas â’ch bwmp, babi, plentyn bach, plentyn, plentyn yn ei arddegau neu oedolyn ifanc.

Rydym yn gweithio gyda rhieni i helpu i gryfhau perthnasau teuluol,
datblygu gwell dealltwriaeth o’ch cryfderau fel rhiant, helpu rhieni i deimlo’n fwy abl i gefnogi datblygiad eich plentyn, a meithrin lles a gwydnwch i rieni a phlant.

Trwy rianta’n gadarnhaol a meithrin perthnasau ystyrlon, gall rhieni helpu i fagu plant hapus ac iach. Mae’n bwysig bod plant yn teimlo’n ddiogel, ac yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu dysgu, datblygiad emosiynol, hunan-barch, a chyfeillgarwch a pherthnasau iach.