skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Bodhyfryd - Tai

Diweddariad diwethaf: 06/01/2026
Tai
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Bodhyfryd yn dŷ chwe llofft yn Llandudno sy’n darparu llety brys i ddynion sydd mewn perygl o ddigartrefedd wedi iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar. Darperir y gefnogaeth yn fewnol gan Adferiad, gyda chynllun “symud ymlaen” wedi ei ddatblygu gan Gyngor Conwy. Datblygwn gynllun cefnogaeth gyda’n preswylwyr sy’n rhoi eglurder o ran yr hyn a ddisgwylir gan staff a ganddynt hwy eu hunain. Cefnogwn cleientiaid gyda sgiliau bywyd megis cynnig gwersi coginio a chyllido, a phob ardal i alluogi’r cleient i fyw’n annibynnol.Ein nod cyffredinol yw i gefnogi cleientiaid i roi’r gorau i weithgareddau troseddol ac i aros allan o’r carchar. Mae’r gefnogaeth person-ganolog yn rhoi dealltwriaeth eglur i’r cleientiaid ac i’r Mentor Cefnogaeth Tai o nodau’r cleient a sut y byddent yn cael eu cefnogi i’w cyfawni. Rydym hefyd yn cefnogi cleientiaid pan maent yn cyrraedd i wneud cais am y Credyd Cynhwysol ac i gofrestru gyda meddyg teulu a deintydd. Gall staff fynd gyda cleientiaid i bob apwyntiad.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.