skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Arthritis UK Cymru: Byw'n Dda gydag Arthritis - Iechyd Cymunedol

Diweddariad diwethaf: 10/02/2026
Iechyd Cymunedol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae ein rhaglen 5 wythnos AM DDIM ar gyfer unrhyw un sydd ag arthritis neu gyflwr cyhyrysgerbydol cysylltiedig. Fe'i cynlluniwyd i helpu i’ch cefnogi i reoli'ch cyflwr yn well.

Mae'n gyfuniad o ddysgu sut a ble i gael cymorth, gwybodaeth a chefnogaeth; wrth ddatblygu'r offer sydd eu hangen arnoch i adennill rheolaeth fel y gallwch ddechrau byw'r bywyd rydych chi ei eisiau.

Mae lleoedd yn gyfyngedig. Cofrestrwch DIM OND os gallwch fynychu pob sesiwn yn ystod y 5 wythnos, i gael y gorau o'r rhaglen.

Byddwn yn ymdrin â chyflwyniad i hunanreoli, sut i gyfathrebu'n effeithiol am eich cyflwr ag eraill, deall poen a symptomau eraill, effaith ymarfer corff a gweithgarwch, a rheoli'r newid rydych am ei weld.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.