skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

1/4/26 Helfa Ditectif Dirgel & Helfa Drysor - Talacre - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 12/03/2026
Digwyddiad Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Ar eich ymweliad, byddwch yn cymryd rôl Ditectif Dirgel yn chwilio am beryglon y gallech chi eu gweld bob dydd a chasglu cliwiau i gwblhau’r Chwest. Mae’r Ganolfan i gyd dan do (heblaw am ran fechan y tu allan ond mae gennym ni ganopïau os nad yw’r tywydd yn braf). Mae’r Helfa Ditectif Dirgel yn daith hunan-dywys, lle byddwch efo llyfryn gweithgaredd yn eich arwain trwy’r senarios.

Ar ben hynny, mae gennym ein Helfa Drysor! Rydym wedi cuddio 15 o eitemau o amgylch y ganolfan yn ofalus i chi ddod o hyd iddynt! (Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu cuddio’n RILI dda – allwch chi weld nhw i gyd?) Unwaith y byddwch chi wedi dod o hyd i bob un, byddwch chi’n gallu dewis gwobr o’r Bocs Drysor.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl rhwng 5 oed ac 11 oed.