skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

31/05/2026 🪴🌻Wythnos Genedlaethol Garddio Plant yn Erddig 🌼🌳 LL13 0YT - Digwyddiad

Diweddariad diwethaf: 07/05/2026
Digwyddiad Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Dewch i ymuno â ni yn ystod hanner tymor mis Mai eleni i ddathlu Wythnos Genedlaethol Garddio Plant gydag ystod o weithgareddau teulu wedi’u hysbrydoli gan natur.
O 23-31 Mai, cymerwch ran mewn gweithgareddau crefft ymarferol a rhowch gynnig ar gwis yr ardd i ddysgu sut mae gwenyn a glöynnod byw yn helpu'r ardd i ffynnu.

Ddydd Mawrth 26 Mai a dydd Iau 28 Mai, galwch yn yr ystafell addysg unrhyw bryd rhwng 11am a 3pm i roi cynnig ar ein crefftau ar thema gwenyn a glöynnod byw.

Ymunwch ag Emma Howes am weithdy addas i deuluoedd ddydd Mercher, 27 Mai, 11am-1pm a dysgwch sut i greu eich gwenyn ffelt eich hun. Caiff cyfleoedd eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin, gydag un wenynen fesul teulu.

Yna, ddydd Gwener 29 Mai, dewch i greu eich bom hadau eich hun unrhyw bryd rhwng 11am a 3pm i fynd gartref gyda chi i’w blannu yn eich gardd.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.