Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
Camwch i’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yng Nghastell y Waun yr hanner tymor Mai hwn.Adeiladwch eich ffau eich hun a dychmygwch sut beth oedd creu cartref ar y dirwedd anhygoel hon, ymhell cyn i’r castell gael ei adeiladu ddechrau 1295.Yna trowch eich sylw at y presennol i weld a allwch ofalu am natur a chadwraeth, yn union fel mae’r Ymddiriedolaeth yn ei wneud heddiw. Rhowch gynnig ar y ras wy ar lwy i ddanfon yr wyau’n ddiogel i’r nyth.Yn olaf, edrychwch tua’r dyfodol drwy edrych i fyny ar yr awyr a dychmygu beth sydd yno. Taflwch fagiau ffa fel awyrfeini tuag at fyrddau targed serennog.Tra rydych chi yma, heriwch deulu a ffrindiau i gêm o fadminton neu goetiau ar y lawnt.Yn olaf, parhewch â’ch taith drwy’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn ein gardd iard newydd, a grëwyd ar y cyd â Stori Brymbo a chanolfan darganfod gwyddoniaeth Wrecsam, Xplore!
Croeso i bawb.Codir tâl mynediad arferol - mynediad am ddim i aelodau ac i blant dan 5 oed.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.
Mae'n dibynnu - Codir tâl mynediad arferol - mynediad am ddim i aelodau ac i blant dan 5 oed.
https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/chirk-castle/dyddiau-ir-teulu#rt-hanner-tymor-mis-mai
National TrustChirk CastleChirkWrecsamLL14 5AF
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru