skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Gwasanaeth Addysg Shelter Cymru - Tai

Diweddariad diwethaf: 17/12/2025
Tai Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, nod Gwasanaeth Addysg Shelter Cymru yw sicrhau bod gan bobl ifanc y cyfle trwy sianeli addysg a gwaith ieuenctid i fod yn fwy gwybodus a chyfarparedig i wneud y trosglwyddiad llwyddiannus i fod yn oedolion, gan atal digartrefedd a hyrwyddo annibyniaeth.

Trwy ein gwasanaeth addysg, rydym yn datblygu ac yn diweddaru adnoddau a deunyddiau addysgu dwyieithog yn barhaus ar gyfer ymarferwyr o fewn Addysg gynradd, uwchradd ac Addysg Bellach, i addysgu eu dysgwyr ar dai, digartrefedd a byw'n annibynnol.

Mae gadael cartref a byw'n annibynnol yn gam enfawr i bob person ifanc. Rydym am sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y profiad mor ddi-straen a mor hawdd â phosibl. Rydym hefyd eisiau i chi wybod ble i fynd am gymorth os ydych chi'n cael problem tai neu os ydych chi'n wynebu digartrefedd.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.