skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Caerdydd Hub y Llyfrgell Ganolog - Gwasanaethau Llyfrgell

Diweddariad diwethaf: 27/01/2026
Gwasanaethau Llyfrgell Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae'r Hwb yn darparu gwasanaeth llyfrgell, gan gynnig amrywiaeth eang o lyfrau a mynediad i gyfrifiaduron. Gallwch hefyd gael cymorth un stop gyda cheisiadau am basiau bws. Mae'r orsaf sganio hunanwasanaeth yn caniatáu ichi uwchlwytho tystiolaeth budd-dal tai. Rydym yn cynnal cymhorthfa tai wythnosol lle gallwch gael cyngor wyneb yn wyneb gan ein tîm. Rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau cymunedol ar gyfer grwpiau o bob oed.

Fel Hwb, mae ein gwasanaethau'n cynnwys Cyngor Ariannol, Gwasanaethau I Mewn i Waith, Dysgu Oedolion, Cymorth gydag ymholiadau tai a Budd-daliadau, mynediad at dalebau banc bwyd a chasglu bagiau ailgylchu gwyrdd. Gallwn gefnogi os ydych chi'n wynebu digartrefedd neu ar y rhestr aros am dai.

Mae Hwb Llyfrgell Ganolog Caerdydd yn fwy na llyfrgell yn unig. Gan gynnig golygfeydd ysblennydd o Gaerdydd, mae ein hadeilad eiconig yng nghanol y ddinas hefyd yn lleoliad diwylliannol, yn ganolbwynt cymunedol, yn gartref i lyfrgell a gwasanaethau cynghori.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.