Browsealoud - help i ddarllen ein gwefan. Mwy o wybodaeth…
Cael dewis a chymryd rheolaeth
P'un a ydych yn ddarllenydd brwd, yn mwynhau ffilmiau, yn caru cerddoriaeth, neu'n awyddus i gael newyddion diweddaraf yr ardal leol a’r byd, gall ein llyfrgelloedd fodloni'ch anghenion gyda'u dewis eang o lyfrau, DVDs, CDs, gwasanaethau ar-lein, papurau newydd a chylchgronau - mae rhywbeth yno i bawb! Gyda mwy na hanner miliwn o lyfrau rhwng 3 llyfrgell ranbarthol, 13 llyfrgell gangen a theithiol fyddwch chi byth yn rhy bell i ffwrdd o ganolfan wybodaeth.Mae Stordy Creadigol, lleolir yn llyfrgell Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, yn cynnig gofod hygyrch i ddyfeisio a chreu ystod gynhwysfawr o gynhyrchion. O argraffu i sganio gwrthrychau 3D, recordio eich cerddoriaeth eich hun a chynhyrchu fideo, neu godio eich meddalwedd eich hun. Mae gennym yr offer diweddaraf sydd ar gael i greu prototeip gweithredol gyda'ch cysyniad.Wi-Fi ar gael yn yr holl lyfrgelloedd.
Mae'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un.
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl o bob oed.
Mae'n dibynnu - .
Gall unrhyw un yn gysylltu â ni'n uniongyrchol
https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/llyfrgelloedd-ac-archifau/llyfrgell-cydweli/
Llyfrgell CydweliCanolfan GwenllianFilas CaerbrynCydweliSir GaerfyrddinSA17 4UL
Os ydych yn meddwl dod i'n gweld, pam na ddefnyddiwch chi'r teclyn isod i helpu drefnu'ch ffordd atom?
Byddwn ni’n cymryd camau rhesymol i ofalu bod yr wybodaeth sydd ar y wefan mor gywir ag y bo modd, ond allwn ni ddim derbyn cyfrifoldeb am gywirdeb yr wybodaeth honno. Y cyfranwyr sy’n gyfrifol am ddiweddaru eu gwybodaeth nhw, a byddan nhw’n croesawu adborth am gywirdeb yr hyn maen nhw wedi’i gyhoeddi. Cynghorir y rhai sy’n darllen cynnwys y wefan i gymryd pob cam rhesymol i’w bwyso a’i fesur, gan gynnwys hel cynghorion arbenigwyr cyn gwneud – neu osgoi gwneud – unrhyw beth sydd wedi’i grybwyll.
Sylwch fod y canlyniadau a welir wrth chwilio yn Gymraeg neu Saesneg ar ochrau Cymraeg neu Saesneg y wefan (www.dewis.cymru neu www.dewis.wales) weithiau’n wahanol. Gall darparwyr ddewis (yn ddarostyngedig i reolau ynglŷn â safonau iaith sy’n berthnasol i rai darpariaethau) ddewis cofnodi eu gwybodaeth yn Saesneg yn unig, Cymraeg yn unig, neu’n ddwyieithog. Er ein bod yn ceisio defnyddio’r dechnoleg o fewn y wefan i gyfyngu effaith eu dewis, mae terminoleg a strwythur yr ieithoedd yn golygu bod gwahaniaethau yn y canlyniadau sy’n cael eu cynhyrchu weithiau’n anochel.
Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan ni. Dim ond er gwybodaeth ichi rydyn ni wedi cynnig dolenni o’r fath. Felly, ddylech chi ddim tybio bod sêl ein bendith arnyn nhw. Does dim modd inni reoli cynnwys nac adnoddau’r un wefan arall. Mae gyda ni hawl i wrthod neu ddileu dolen â gwefan rydyn ni o’r farn bod ei chynnwys yn amhriodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at y Telerau ac Amodau llawn.
Gael mwy o wybodaeth lles yn www.dewis.cymru