skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Young Lives vs Cancer (previously CLIC Sargent) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 16/03/2026
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Young Lives vs Cancer yn elusen ganser i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd. Rydym ni’n cynnig cefnogaeth glinigol, ymarferol, ariannol ac emosiynol i’w helpu i ymdopi â chanser a manteisio i'r eithaf ar fywyd.

Mae Young Lives vs Cancer yn brwydro’n ddiflino dros blant a phobl ifanc sydd â chanser, yn aml pan nad ydynt yn teimlo eu bod nhw’n gallu eu hunain. Rydym ni’n gwneud hyn yn unigol, yn lleol ac yn genedlaethol, er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar y pethau pwysig, fel gwella. Ac os yw’r gwaethaf yn digwydd, byddwn yn gweithio gyda theuluoedd sy’n galaru i gael cymorth iddynt, i’w helpu i ymdopi â’u poen emosiynol.