skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

NSPCC - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Diweddariad diwethaf: 27/04/2026
Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Ni yw’r elusen plant bennaf sy’n brwydro i roi terfyn ar gamdriniaeth plant. Rydym ni’n helpu plant sydd wedi cael eu camdrin i ail-adeiladu eu bywydau, amddiffyn y sawl sydd mewn perygl, a dod o hyd i’r dulliau gorau o atal camdriniaeth rhag digwydd o gwbl.
Rydym ni’n atal camdriniaeth
Rydym ni’n gweithio gyda theuluoedd pan fyddan nhw’n mynd drwy gyfnodau anodd – fel brwydro caethiwed neu oresgyn problemau iechyd meddwl. Rydym ni’n cynnig pob math o gefnogaeth – o helpu rhieni newydd i ofalu am eu baban i roi i weithwyr proffesiynol yr offer mae arnyn nhw ei angen i asesu esgeulustod.
Rydym ni’n ymweld ag ysgolion cynradd ac yn helpu plant i ddeall beth yw camdriniaeth a rhoi’r hyder iddyn nhw godi eu llais a chwilio am gymorth os ydyn nhw ei angen o gwbl.
Rydym ni’n helpu rhieni i gadw eu plant yn ddiogel trwy ymgyrchoedd fel yr Underwear Rule a Share Aware.