skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Ymarfer Corff Gwynedd - Iechyd Cymunedol

Diweddariad diwethaf: 13/05/2026
Iechyd Cymunedol Gall yr adnodd yma defnyddio’r iaith Gymraeg Gall yr adnodd yma defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sylw/adborth

Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r Cynllun Atgyfeirio i Ymarfer Corff yn rhan o’r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Ymarfer Corff Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r cynllun wedi’i gynllunio ar gyfer oedolion segur, sy’n wynebu risg o ddatblygu problemau iechyd, neu bobl â chanddynt gyflwr iechyd yn barod. Diben y cynllun yw hyrwyddo iechyd a lles drwy annog gweithgareddau corfforol hirdymor.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl 18 oed a hŷn.