P’un a ydych chi’n ceisio trefnu gofal plant, eisiau gwybod mwy am addysg y blynyddoedd cynnar a gweithgareddau ôl-ysgol yn eich ardal chi neu ddim ond angen tipyn o gymorth ychwanegol i fod yn rhiant da, mae digonedd o help ar gael.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) lleol yn ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gallu rhoi gwybodaeth i chi am amrediad o wasanaethau yn eich ardal chi.
Mae eich FIS lleol yn gallu cynghori a chyfeirio rhieni, neiniau a theidiau a gofalwyr at:
- brosiectau a gwasanaethau lleol sy’n cynnig cefnogaeth i bobl sy’n dychwelyd i’r gwaith, yn gwirfoddoli neu’n dysgu
- opsiynau gofal plant mewn unrhyw ardal benodol, e.e. meithrinfeydd dydd, gwarchodwyr plant cofrestredig a chlybiau gwyliau
- cael help gyda chostau gofal plant
- grwpiau cymorth lleol
- gwasanaethau hamdden, gan gynnwys gweithgareddau a digwyddiadau lleol a mannau i ymweld â nhw
- gwybodaeth am bryderon iechyd
- cyngor diogelwch – cadw’ch plentyn yn ddiogel dan do ac yn yr awyr agored
Am fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ewch i www.childcareinformation.wales