Cwestiynau a holir yn aml ynglŷn â Dewis Cymru
Beth yw Dewis Cymru?
Pam ydy e wedi cael ei ddatblygu?
Felly i bwy mae Dewis Cymru?
Rydych chi’n sôn am ‘lesiant’ drwy’r amser, ond beth mae hynny’n ei olygu?
Felly pa wybodaeth am lesiant sydd gan Dewis Cymru?
Ydy Dewis Cymru yn ddwyieithog?
Ydy e’n hygyrch i bobl anabl?
Rwy’n edrych ar ôl rhywun, ydy Dewis Cymru yn gallu fy helpu i?
Sut ydw i’n defnyddio Dewis Cymru?
Rhoddais i gynnig ar Dewis Cymru a methu dod o hyd i beth roeddwn i ei eisiau – beth yw pwynt hynny?
Pa mor hyderus galla i fod am y gwasanaethau lleol rwy’n dod o hyd iddyn nhw ar Dewis Cymru?
Beth os bydda i’n credu bod yr wybodaeth yn Dewis Cymru yn anghywir?
Rwy’n rhedeg gwasanaeth neu grŵp cymunedol sy’n helpu pobl gyda llesiant – pam dylwn i roi fy manylion ar Dewis Cymru?
Mae fy musnes i’n cynnig gwasanaethau sy’n helpu pobl gyda’u llesiant – gaf i ychwanegu gwybodaeth am fy musnes?
Oes unrhyw dâl am ychwanegu fy ngwybodaeth?
Mae hynny i gyd yn swnio’n braf ond oes unrhyw un wir yn ei ddefnyddio?
Sut ydw i’n gwybod bod Dewis Cymru yma am y tymor hir?
Beth yw Dewis Cymru?
Gwefan yw Dewis Cymru sy’n bwriadu helpu pobl gyda’u llesiant. DYMA’r lle i fynd am bobl sydd eisiau gwybodaeth neu gyngor am lesiant – boed eu llesiant eu hunain neu lesiant aelod o’u teulu neu ffrind.
Mae’n cynnwys gwybodaeth sy’n gallu’ch helpu i feddwl am beth sy’n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am dros 6,000 o wasanaethau cendlaethol a lleol sy’n gallu’ch helpu chi gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.
top
Pam ydy e wedi cael ei ddatblygu?
Un o’r rhesymau dros Dewis Cymru ydy’r gyfraith newydd am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru – Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru. Bydd y gyfraith newydd hon yn gwneud bywyd yn well i bobl a’u gofalwyr, drwy wneud yn siŵr bod pobl yn derbyn y cymorth mae arnyn nhw ei angen i fyw bywyd da.
Yn bwysicach, mae yma i helpu pobl i weithio allan beth sy’n bwysig iddyn nhw, ac i roi gwybodaeth a gwasanaethau iddyn nhw i helpu gyda’u llesiant.
top
Felly i bwy mae Dewis Cymru?
Mae Dewis Cymru wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth am gyrff a gwasanaethau sy’n gallu eu helpu i gymryd rheolaeth dros eu llesiant eu hunain, felly mae Dewis Cymru i CHI!
Mae’n ddefnyddiol hefyd i bobl fel meddygon teulu, Llyfrgellwyr, Gweithwyr Cymdeithasol a llawer iawn o gyrff sy’n cynnig gwybodaeth i’r cyhoedd fel rhan o’u gwaith. Felly mae Dewis Cymru i bawb!
top
Rydych chi’n sôn am ‘lesiant’ drwy’r amser, ond beth mae hynny’n ei olygu?
Wrth sôn am lesiant, nid cyfeirio at eich iechyd chi yn unig ydyn ni. Rydyn ni’n golygu pethau fel lle rydych chi’n byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, mynd allan a theithio, a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Nid yw unrhyw ddau berson yr un peth ac mae llesiant yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Felly mae Dewis Cymru yma i helpu pobl i ddysgu mwy am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
top
Felly pa wybodaeth am lesiant sydd gan Dewis Cymru?
Mae gan Dewis Cymru lawer o wybodaeth am lesiant, bod yn ddiogel, bod gartref, a bod yn gymdeithasol. Hefyd mae’n cynnwys gwybodaeth am reoli’ch arian, a gwybodaeth os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun arall. Fe allai fod yn wybodaeth gyffredinol i’ch helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig, neu fe allai fod yn rhywbeth mwy penodol - am y mathau o gymorth ychwanegol a allai’ch helpu i fyw yn eich cartref eich hun am gyn hired ag sy’n bosibl, er enghraifft.
top
Ydy Dewis Cymru yn ddwyieithog?
Ydy, mae’r tudalennau gwybodaeth i gyd ar gael yn y Gymraeg a Saesneg, ac rydym yn annog pobl sy’n rhoi gwybodaeth am eu gwasanaeth i’w chyflwyno yn y Gymraeg a Saesneg, ac yn eu hatgoffa y gall y gyfraith fynnu eu bod yn gwneud hynny.
top
Ydy e’n hygyrch i bobl anabl?
Ydy – rydyn ni wedi profi’r rhan honno’n drylwyr fel y bydd Dewis Cymru mor hygyrch â phosibl i bobl anabl. Bellach, mae ar wefan Dewis Cymru feddalwedd o’r enw ‘Browsealoud’ fydd yn darllen cynnwys tudalennau yn uchel ichi. Ar ben hynny, mae fideo sy’n esbonio natur y wefan trwy Iaith Arwyddion Prydain. Mae croeso i bawb gyflwyno awgrymiadau unrhyw bryd am sut y gallen ni gwneud y wefan haws i bobl anabl eu defnyddio. Ar waelod pob tudalen, mae datganiad am ein bwriad i roi gwybodaeth ar gael i bobl ar y ffurfiau sy’n gweddu i’w hanghenion.
top
Rwy’n edrych ar ôl rhywun, ydy Dewis Cymru yn gallu fy helpu i?
Yn bendant. Gallwch chi ddefnyddio Dewis Cymru i’ch helpu i feddwl am lesiant y person rydych chi’n gofalu amdano/amdani. Ond hefyd mae gan Dewis Cymru wybodaeth i’ch helpu chi gyda’ch llesiant eich un, achos gwyddom ni fod edrych ar ôl rhywun yn gallu bod yn foddhaus iawn, ond mae’n gallu bod yn ymestynnol ac yn llafurus hefyd. Ac fel gofalwr mae gennych chi rai hawliau arbennig, y gall Dewis Cymru ddweud mwy wrthych chi amdanyn nhw.
top
Sut ydw i’n defnyddio Dewis Cymru?
Mae yna ddulliau gwahanol o ddefnyddio Dewis Cymru i’ch helpu i feddwl am eich llesiant, a gweithio allan beth sy’n bwysig i chi.
Felly os credwch chi fod arnoch chi angen tipyn o help gyda’ch llesiant ond ddim yn siŵr beth sy’n bwysicaf i chi, beth am bori’r wefan. Mae gennym ni dudalennau am fod yn iach, bod yn gymdeithasol, bod gartref, bod yn ddiogel, rheoli’ch arian, plant a theuluoedd ac edrych ar ôl rhywun.
Ar y rhan fwyaf o dudalennau fel welwch chi chwyddwydr – cliciwch ar hwnnw a byddwn ni’ndweud wrthych chi am wasanaethau yn eich ardal chi sy’n gallu’ch helpu gyda beth bynnag rydych chi newydd fod yn darllen amdano.
Os ydych chi’n gwybod yn barod beth rydych chi’n chwilio amdano, gallwch chi chwilio ar unwaith i weld pa wybodaeth sydd gennym ni a beth sydd ar gael i’ch helpu chi yn eich ardal chi. Er enghraifft os ydych chi am wybod sut i gael addasiadau i’ch cartref ar gyfer defnyddiwr cadair olwyn, cyfan sydd angen yw teipio ‘cadair olwyn’. Bydd Dewis Cymru yn chwilio am wybodaeth a fydd yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr cadair olwyn ac yn dweud wrthych chi am y bobl, grwpiau, a gwasanaethau yn eich ardal chi a fydd efallai’n gallu’ch helpu.
Efallai eich bod chi’n gwneud hyn i gyd ar ran rhwyun arall, rhywun sydd ddim ar y rhyngrwyd o bosib. Felly mae Dewis Cymru yn ei gwneud hi’n hawdd iawn argraffu pethau, eu anfon e-bost o ganlyniadau’ch chwiliad at ffrind neu aelod o’ch teulu sydd ar y rhyngrwyd.
top
Rhoddais i gynnig ar Dewis Cymru a methu dod o hyd i beth roeddwn i ei eisiau – beth yw pwynt hynny?
Mae Dewis Cymru yn wefan dda ond mae ond yn gallu dweud wrthych chi am wasanaethau lleol sydd wedi rhoi eu manylion i ni. Dyna pam mae’n hynod o bwysig bod unrhyw un y mae ei sefydliad yn cynnig gwasanaeth neu adnodd sy’n helpu pobl yn rhoi eu manylion i mewn i Dewis Cymru. Ond os ydych chi’n methu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano fe, bydd Dewis Cymru bob amser yn gwneud yn siŵr ei fod yn rhoi rhif i chi ei ffonio i chi gael siarad â rhywun yn eich awdurdod lleol am yr hyn rydych chi’n chwilio amdano. A chofiwch fod y cyfeiriadur adnoddau yn tyfu drwy’r amser felly mae’n werth dod yn ôl o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd yn eich ardal chi.
Ac os ydych chi’n methu dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, dywedwch wrth Dewis Cymru! Rydym ni bob amser yn gweithio i wella’r wefan felly rydym ni wrth ein bodd yn clywed oddi wrth bobl gydag awgrymiadau ar sut allwn ni ei gwneud hi’n well. Gallwch chi ddweud wrthym ni drwy ddefnyddio’r ddolen ‘Cysylltu â ni’ ar frig tudalen hafan Dewis Cymru.
top
Pa mor hyderus galla i fod am y gwasanaethau lleol rwy’n dod o hyd iddyn nhw ar Dewis Cymru?
Er y gall unrhyw un roi manylion eu gwasanaeth i mewn i Dewis Cymru, does neb yn gallu gweld y manylion hynny nes bod rhywun wedi gwirio’r manylion a’u cymeradwyo i’w cyhoeddi. Rhywun yn eich ardal chi sy’n gweithio i awdurdod lleol neu’r trydydd sector fydd yn gwneud y gwaith gwirio, rhywun sy’n gwybod rhywbeth am y math o wasanaeth y mae manylion wedi cael eu hychwanegu. Wrth gwrs, nid yw’r un system wirio gynnig gwarant gadarn am y pethau sy’n cael eu cynnwys mewn unrhyw Gyfeiriadur Gwasanaethau, ac mae’n rhaid i bobl gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros sut maen nhw’n defnyddio’r wybodaeth maen nhw’n dod o hyd iddi ar Dewis Cymru.
Mae’n rhaid i bobl a chyrff sy’n ychwanegu gwybodaeth at y cyfeiriadur adnoddau gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod eu gwybodaeth yn gywir, a chadarnhau bob chwe mis bod yr wybodaeth yn dal yn gyfredol, fel arall mae’n diflannu o’r golwg. Mae hyn yn golygu y gall pobl fod yn hyderus am gywirdeb yr wybodaeth adnoddau o fewn Dewis Cymru.
top
Beth os bydda i’n credu bod yr wybodaeth yn Dewis Cymru yn anghywir?
Dywedwch wrthym ni. Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am wasanaeth penodol, gallwch chi ddefnyddio’r ddolen ‘Adborth’ i roi gwybod iddyn nhw. Caiff eich adborth ei anfon yn uniongyrchol atyn nhw ac ni fydd yn weladwy ar y wefan.
I roi gwybod i ni am eich barn ar y safle’n gyffredinol, defnyddiwch y ddolen ‘Cysylltu â ni’ ar dudalen hafan Dewis Cymru.
top
Rwy’n rhedeg gwasanaeth neu grŵp cymunedol sy’n helpu pobl gyda llesiant – pam dylwn i roi fy manylion ar Dewis Cymru?
Llawer o resymau. Os oes gennych chi wasanaeth sy’n helpu pobl gyda’u llesiant, bydd ychwanegu’ch manylion at Dewis Cymru yn ei gwneud yn haws i’r bobl rydych chi am eu helpu a’u cefnogi i ddod o hyd i chi. Does dim ots pa mor fawr neu fach ydych chi, neu ai gwirfoddolwyr ydych chi - mae pethau sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr yr un mor bwysig i ni â phethau mae’ch awdurdod lleol yn eu darparu. Yn y bôn, os ydych chi’n helpu pobl gyda’u llesiant, mae Dewis Cymru eisiau gwybod amdanoch chi ac am yr hyn rydych chi’n ei wneud, er mwyn i ni gael rhoi pobl mewn cysylltiad â chi! Mae rhesymau da eraill i'w ddefnyddio Dewis Cymru yn cynnwys:
- Mae’n rhad ac am ddim
- Mae’n hawdd cofrestru a rhoi’ch manylion chi ar y wefan
- Bydd yn eich atgoffa chi bob chwe mis i wirio’ch manylion, fel eich bod yn gwybod eu bod nhw’n gyfredol
- Mae darparu mapiau a chyfarwyddiadau i helpu pobl i ddod o hyd i chi
- Mae'n cael ei ddefnyddio gan lawer o asiantaethau cyngor yn barod i gyfeirio pobl at wasanaethau lleol a all eu helpu, felly bydd cael eich gwybodaeth ar Dewis Cymru yn golygu bod modd cyfeirio pobl at eich gwasanaeth.
top
Mae fy musnes i’n cynnig gwasanaethau sy’n helpu pobl gyda’u llesiant – gaf i ychwanegu gwybodaeth am fy musnes?
Cewch wrth gwrs. Bydd yn rhaid i’ch gwybodaeth gael ei gwirio a’i chymeradwyo am gyhoeddiad o hyd, ond cyn belled â’ch bod dim ond yn disgrifio’r gwasanaeth rydych chi’n ei gynnig, dylech chi ddim cael unrhyw anawsterau.
top
Oes unrhyw dâl am ychwanegu fy ngwybodaeth?
Nid ydym yn codi tâl ar unigolion na chyrff unigol am ychwanegu eu gwybodaeth at Dewis Cymru.
top
Mae hynny i gyd yn swnio’n braf ond oes unrhyw un wir yn ei ddefnyddio?
Yn bendant – ar hyn o bryd mae’r wefan yn derbyn cyfartaledd o fwy na 65,000 o ymweliadau â’i thudalennau bob mis, ac ym Mawrth 2019 cyflwynodd fwy na 25.5 miliwn o wasanaethau lleol mewn canlyniadau chwiliadau ar hyd a lled Cymru! Mae pob unigolyn sy’n dod i Dewis Cymru yn aros am fwy na 5 munud – efallai nad yw hynny’n swnio’n llawer, ond mae’n fwy na llawer o wefannau ac mae’n dangos bod pobl sy’n dod i Dewis Cymru yn ei chael yn ddefnyddiol.
top
Sut ydw i’n gwybod bod Dewis Cymru yma am y tymor hir?
Does dim dwywaith bod Dewis Cymru yma am y tymor hir. Er bod rhywfaint o'r datblygiad gwreiddiol Dewis Cymru wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae'r wefan erbyn hyn wedi'i ariannu gan lywodraeth leol ar draws Cymru. Mae’r gost i bob awdurdod yn isel iawn, a gwyddom fod awdurdodau yn hapus iawn gyda’r hyn maen nhw’n ei dderbyn yn gyfnewid, yn arbennig gan ei fod yn eu helpu i gyflawni rhai o’r dyletswyddau newydd sydd ganddyn nhw o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru.
top