skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Canllawiau ar sut i gofrestru/mewngofnodi ac ychwanegu/golygu gwybodaeth am eich adnodd at Dewis Cymru


Cofrestru ar Dewis Cymru

Methu cofrestru am fod ‘y cyfeiriad e-bost yn bodoli’n barod’

‘Mewngofnodi’ i Dewis Cymru

Beth sy’n digwydd os bydd fy nghais i ‘fewngofnodi’ yn methu?

Ychwanegu eich logo

Yn barod i ychwanegu adnodd?

Pa wybodaeth oes angen i mi ei chynnwys?

Cadw f’adnodd

Ychwanegu digwyddiadau

Golygu’ch gwybodaeth yn Dewis Cymru

Angen mwy o help?

Nodiadau cyfarwyddyd

Beth ydy ‘llesiant’?

Beth ydy ‘Adnodd’?

Ystyriaethau’r canllawiau am adnoddau


Cofrestru ar Dewis Cymru

Mae’n rhaid i chi gofrestru gyda Dewis Cymru cyn y gallwch chi ychwanegu gwybodaeth am wasanaeth neu adnodd.

Mae’r bobl sy’n ychwanegu gwybodaeth am adnodd at Dewis Cymru yn cael eu galw’n ‘Newyddiadurwyr’.

Mae’r broses gofrestru yn gadael i chi ‘ymrestru’ hefyd i dderbyn copi electronig o newyddlen Dewis Cymru. Os ydych chi’n dewis derbyn newyddlen Dewis Cymru, o bryd i’w gilydd byddwn ni’n defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i anfon gwybodaeth atoch chi mewn perthynas â Dewis Cymru. Cewch chi newid yr opsiwn yma ar unrhyw adeg trwy "Fy nghyfrif” ar y dudalen hafan.

O’r dudalen hafan, cliciwch ‘Cofrestru’ i lywio i’r dudalen ‘Creu Cyfrif Newydd’ ac ychwanegwch yr wybodaeth ganlynol. Bydd yr wybodaeth a rowch chi yma yn cael ei defnyddio i greu a rheoli’ch cyfrif, ac i sicrhau bod gennych chi fynediad i’r wybodaeth gywir pan ddefnyddiwch y safle. Ni fydd yn cael ei chyhoeddi ar y wefan na’i rhannu â neb ac eithrio’r sawl sy’n rheoli’r wefan a’i chynnwys (e.e. golygyddion lleol) a fydd efallai’n cysylltu â chi yn ôl yr angen ynghylch yr wybodaeth rydych chi’n ei hychwanegu at y safle. Fel defnyddiwr cofrestredig Dewis Cymru, byddwn ni hefyd, o bryd i’w gilydd, yn anfon gwybodaeth atoch chi ynghylch newidiadau i’r system. Os bydd angen i chi ddileu’ch cyfrif ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni.

  • Enw Arddangos: Dyma’r enw a ddangosir yn y system pan fyddwch chi wedi mewngofnodi i’r safle; defnyddiwch eich enw neu briflythyren eich enw cyntaf a’ch cyfenw.
  • E-bost: Dylai hwn fod y cyfeiriad e-bost rydych chi’n dymuno i’r safle ei ddefnyddio i gyfathrebu â chi. Yn rhan o’r cofrestriad, bydd y safle yn anfon e-bost at y cyfeiriad hwn i actifadu’ch cyfrif. Yna bydd angen i chi ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost yma i fewngofnodi. Cofiwch y bydd eich e-bost actifadu weithiau’n gallu mynd yn syth i’ch ffolder post sothach, felly cofiwch wirio,  mae’n bosib gall yr e-bost actifadu ymddangos fel e-bost sothach.
  • Cyfrinair: Rhaid i’ch cyfrinair fod o leiaf 7 cymeriad o hyd.
  • Enw cyntaf: Rhowch eich enw cyntaf.
  • Cyfenw: Rhowch eich cyfenw.
  • Awdurdod lleol: Ym mha Sir ydych chi?
  • Ticiwch ‘I am not a robot’: Ticiwch y blwch ticio ‘I am not a robot’, ac arhoswch iddo droi’n dic gwyrdd cyn i chi glicio ‘mewngofnodi’, fel arall bydd eich mewngofnodi yn methu. Mae hyn yn atal robotiaid rhag cael mynediad i’r safle.

Methu cofrestru am fod ‘y cyfeiriad e-bost yn bodoli’n barod’

Efallai eich bod chi wedi cofrestru peth amser yn ôl ac wedi anghofio eich bod wedi gwneud. Mae hyn yn digwydd weithiau! Felly os cewch chi neges goch i ddweud bod eich ‘cyfeiriad e-bost yn bodoli’n barod’ wrth geisio arbed eich manylion, cewch chi ‘Mewngofnodi’ yn lle.

‘Mewngofnodi’ i Dewis Cymru

I ‘Fewngofnodi’ bydd arnoch chi angen y cyfeiriad e-bost a’r cyfrinair wnaethoch chi gofrestru gyda nhw.

Cofiwch dicio’r blwch ‘I am not a robot’, ac aros iddo droi’n dic gwyrdd cyn i chi glicio ar ‘Mewngofnodi’, neu fel arall bydd eich ‘Mewngofnodi’ yn methu.

Wedi anghofio’ch cyfrinair? - Os ydych chi wedi anghofio’ch cyfrinair, defnyddiwch y ddolen ‘Wedi anghofio’ch cyfrinair’ ar waelod y dudalen ‘mewngofnodi’.

Yna bydd arnoch chi angen y cyfeiriad e-bost a ddefnyddioch chi i gofrestru.

Byddwch chi’n derbyn e-bost wedyn sy’n cynnwys eich cyfrinair. Cofiwch fod yn ofalus os byddwch chi’n 'copïo' ac yn 'gludo' y cyfrinair newydd yma i Dewis Cymru i osgoi unrhyw ofodau dieisiau a allai olygu y bydd eich cais i fewngofnodi yn methu. Os nad ydych chi wedi derbyn yr e-bost yma, gwiriwch eich ffolder post sothach. Os ydych chi’n dal i gael problemau, yna cysylltwch â ni.

Beth sy’n digwydd os bydd fy nghais i ‘fewngofnodi’ yn methu?

Fel arfer mae ‘Mewngofnodi’ yn methu am fod y cyfrinair a/neu’r cyfeiriad e-bost wedi eu rhoi’n anghywir, ac felly ddim yn gweddu i’r hyn a greoch chi wrth gofrestru. Mae’n hawdd gwneud hynny. Gwiriwch:

  • fod y cyfrinair /cyfeiriad e-bost rydych chi wedi eu teipio’n gywir;
  • nad ydych chi wedi copïo a gludo unrhyw ofodau ychwanegol;
  • eich bod wedi ticio’r blwch ‘I am not a robot’ ac aros am y tic gwyrdd; ac
  • nad ydych chi wedi gadael ‘CAPS LOCK’ ymlaen.

Ychwanegu eich logo

Gallwch chi ychwanegu logo eich sefydliad at adnoddau rydych chi’n ‘berchen’ arnyn nhw. I ychwanegu eich logo, ewch i ‘Fy nghyfrif’ a chliciwch at y tab ‘Proffil’. Yna ‘Lanlwytho ffoto’. Bydd eich delwedd yn ymddangos yn nheitl unrhyw adnoddau rydych chi’n berchen arnyn nhw.

Yn barod i ychwanegu adnodd?

Ar ôl mewngofnodi, cewch chi ychwanegu a golygu’ch adnodd (mae adnoddau yn wasanaethau, cyrff, grwpiau, clybiau, cyfarfodydd, digwyddiadau ac ati) yn Dewis Cymru.

Cliciwch ar y tab ‘Rheoli adnoddau’.

Sylwch, cyn i chi 'Ychwanegu adnodd':

  • Nid oes rhaid i chi roi’ch holl wybodaeth ar yr un pryd - gallwch chi roi’r wybodaeth sylfaenol (dosbarthiad eich adnodd, ei enw, o leiaf un dull cysylltu a ble rydych chi’n darparu’ch adnodd) ac yna dewis 'Cadw’ch newidiadau'.
  • Os na fyddwch chi’n 'Cadw’ch newidiadau' ar waelod y dudalen, ni fydd eich gwybodaeth rydych chi wedi ei rhoi yn cael ei storio yn Dewis Cymru.
  • Ar ôl i chi gadw’ch newidiadau gallwch chi ddod yn ôl at wybodaeth eich adnodd ar adeg arall i ychwanegu ati neu ei golygu.
  • Os byddwch chi’n taro botwm yn ôl eich porwr neu’n cau ffenestr y porwr heb gadw’r newidiadau, ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei storio yn Dewis Cymru.
  • Cofiwch gwblhau’r holl feysydd gorfodol. Mae’r rhain wedi eu marcio mewn glas ‘mae’r wybodaeth hon yn ofynnol’.
  • Wrth ychwanegu neu olygu’ch adnodd, bydd y system yn rhoi awgrymiadau a chynghorion wrth i chi glicio i mewn i faes. Bydd yr awgrymiadau a chynghorion yma’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am beth ddylech chi ei gynnwys. Gallwch chi droi’r rhain i ffwrdd drwy ddileu’r tic yn y blwch ‘Dangos help ar y sgrîn’ tua brig y ffurflen.
  • Mae terfyn ar nifer y cymeriadau ar ddiwedd pob maes. Bydd y rhain yn troi’n goch os byddwch yn mynd tu hwnt iddyn nhw. Hefyd, wrth gadw’ch adnodd byddwch chi’n derbyn negeseuon ei fod yn annilys.
  • Cofiwch feddwl am eich rhwymedigaethau fel corff i ddarparu’ch manylion yn y Gymraeg. Mae tab ‘testun Cymraeg’ wrth ymyl ‘Manylion’. Mae’r ffurflen wedi ei threfnu gyda’r meysydd Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr â’i gilydd.

Pa wybodaeth oes angen i mi ei chynnwys?

*Dosbarthiad: beth ydy’ch adnodd? Er enghraifft yn ddigwyddiad, cartref gofal, gwarchodwr plant neu rywbeth arall. Peidiwch â phoeni am y math o ddosbarthiad, nid yw hyn yn effeithio ar ble mae’ch adnodd chi’n ymddangos yn Dewis Cymru. Yn gyffredinol, mae dosbarthiad yn cael ei gynnwys yn Dewis Cymru lle:

  • Mae’n gadael i Dewis Cymru fynnu gwybodaeth ychwanegol am adnoddau o fewn dosbarthiad penodol, na fyddai’n briodol nac yn berthnasol i fathau eraill o wasanaeth. Er enghraifft, ar gyfer dosbarthiadau gofal plant, mae cwestiynau ychwanegol yn cael eu gofyn am y gwasanaeth. Hefyd mae’n gadael i Dewis Cymru nodi gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio.
  • Mae’n gadael i Dewis Cymru addasu’r wybodaeth sy’n cael ei dangos i ddefnyddwyr am fathau arbennig o adnodd.
  • Mae’n gadael i fathau arbennig o wasanaeth gael eu dyrannu i olygyddion penodol, felly dim ond y golygyddion hynny sydd â gwybodaeth am y math hwnnw o wasanaeth sy’n gallu cyhoeddi adnoddau. Gweler ‘Beth sy’n Digwydd Nesaf’ am fwy o wybodaeth.

Er y dylai pob math o wybodaeth ffitio i mewn i un o’r dosbarthiadau, mae’n bwysig nodi nad bwriad y system yw darparu rhestr gynhwysfawr o bob math penodol o wasanaeth.

Ydy’ch gwasanaeth yn wasanaeth gwirfoddol, cymunedol, neu trydydd sector?: Os atebwch chi ‘Ydy’ byddwch chi’n cael eich gofyn ‘Gan fod eich gwasanaeth yn un gwirfoddol, cymunedol, neu trydydd sector, hoffem rannu gwybodaeth am eich gwasanaeth gyda “Infoengine” cyfeiriadur adnoddau'r drydedd sector. Os byddwch yn dewis rhannu eich gwybodaeth, dim ond yn y cyfeiriadur ‘Infoengine’ y caiff ei dangos. Ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Caiff ei diweddaru bob amser i adlewyrchu’r wybodaeth a gofnodwch yn Dewis Cymru a’i dileu os byddwch yn dewis dileu eich cofnod ar Dewis Cymru ar unrhyw adeg. A ydych yn hapus ein bod yn rhannu’r wybodaeth yma? Bydd angen i chi ddewis ‘Ydw’ neu ‘Nac ydw’.

*Enw’r gwasanaeth: Ychwanegwch enw’ch adnodd/gwasanaeth/corff. Cofiwch os oes gennych chi wasanaeth sydd â changen yn ardal llawer o awdurdodau lleol, byddem ni’n awgrymu ychwanegu’r ardal e.e. Cronfa Fwyd Pen-y-bont yn hytrach na dim ond Cronfa Fwyd neu Gwybodaeth a Chyngor am Ddyledion – Cyngor ar Bopeth Conwy ac yn y blaen.

Beth mae’ch adnodd chi yn ei wneud?: Ychwanegwch wybodaeth gyfoethog sy’n disgrifio’ch adnodd chi’n fyr. Meddyliwch am y mathau o ‘dermau’ neu ‘allweddeiriau’ y byddai defnyddwyr yn eu defnyddio wrth chwilio. Os ydych chi’n defnyddio termau hawdd eu deall yn eich disgrifiad, hawsaf i gyd y bydd hi i ddefnyddwyr ddod o hyd i chi. Er enghraifft, os ydych chi’n glwb cinio, gallech chi ddisgrifio’ch gwasanaeth fel hyn ‘Os ydych chi’n unig ac yn ynysig beth am ddod draw i’n clwb cinio a gwneud ffrindiau, teimlo’n rhan o’r gymuned a chael pryd bwyd cynnes’.

Ceisiwch osgoi defnyddio acronymau neu jargon. Os ydych chi, ceisiwch wneud yn siŵr eich bod yn rhoi’r ystyr llawn rhywle yn y testun. Er enghraifft, ‘M.E’ neu ‘ME’ – ystyriwch ychwanegu ‘Myalgic Encephalomyelitis (ME)’.

I bwy y mae’ch adnodd chi?: Oes unrhyw feini prawf cymhwyster i bobl gael defnyddio’ch adnodd? Oes unrhyw beth mae angen i bobl ei wybod am ddefnyddio’ch adnodd os ydyn nhw’n meddwl am ddod draw? Er enghraifft, pobl hŷn 60+ oed neu rieni plant anabl ac ati.

Ydych chi'n darparu'ch gwasanaeth YN BENNAF neu'n GYFAN GWBL ar gyfer un o'r grwpiau hyn o ddefnyddwyr?: ‘Cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig’, ‘Gofalwyr’ ‘Cymunedau Sipsiwn neu Deithwyr’, ‘Pobl Lesbiaiadd, Hoyw, Ddeurywiol neu Drawsrywio’ ‘Cymunedau mudwyr eraill’, ‘Ffoaduriaid neu geiswyr lloches’, ‘Cyn filwyr neu gyn bersonél y lluoedd arfog, ‘Nac ydw – mae fy ngwasanaeth i ar gyfer pawb’. Dewiswch un opsiwn. Os nad ydy’ch gwasanaeth ‘Yn bennaf’ neu ’Yn gyfan gwbl’ am unrhyw un o’r grwpiau sy’n cael eu rhestru, yna dewiswch ‘Nac ydw – mae fy ngwasanaeth ar gyfer pawb’. 

*Sut fyddech chi’n disgrifio iaith weithiol eich adnodd? Dewiswch: Dwyieithog, Saesneg yn unig neu Gymraeg yn unig. Os ydych chi’n dewis ‘Dwyieithog’ neu ‘Gymraeg yn unig’ bydd y logo Iaith Gwaith yn ymddangos wrth ymyl eich manylion.

Allwch chi ddarparu’ch gwasanaeth gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)? Dewiswch ‘Gallwn’ neu ‘Na allwn’. Os ydych chi’n dewis ‘Gallwn’ bydd y logo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn ymddangos wrth ymyl eich manylion.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio’ch adnodd?: Os Oes neu Mae’n Dibynnu, yna mae’n rhaid i chi ychwanegu beth ydy’r tâl yn y maes sy’n cael ei ddarparu. Er enghraifft, ‘£3.50 y person, mae hyn yn cynnwys pryd bwyd cynnes a diod’. Os oes gennych chi gostau amrywiol, yna gallech chi ofyn i bobl ‘Gysylltu â chi am fwy o wybodaeth’ neu ‘Fynd i’n gwefan am fwy o wybodaeth’.

Oes modd i unrhyw un ddefnyddio’r adnodd neu oes angen atgyfeiriad? Os felly, gan bwy?: Er enghraifft, ‘Caiff unrhyw un gysylltu â ni’n uniongyrchol’, neu ‘Mae’r gwasanaeth hwn ar gael dim ond drwy gyfrwng meddyg teulu neu weithiwr proffesiynol arall’ ac yn y blaen.

Cyfeiriad y wefan: Ychwanegwch gyfeiriad eich gwefan os oes gennych chi un. Mae hon yn ffordd dda i gyfeirio pobl at dudalen benodol ar eich gwefan neu gallwch chi ei ddefnyddio i gyfeirio at boster neu ffeithlen.

Canlyniadau: Ticiwch ddim mwy na 5 canlyniad. Mae’r rhain yn ymwneud â’r tudalennau gwybodaeth cenedlaethol sy’n hygyrch o’r dudalen hafan e.e. Bod yn gymdeithasol, Bod yn iach, Bod gartref, Rheoli’ch arian, Bod yn ddiogel ac Edrych ar ôl ffrindiau a’ch teulu. Does dim rhaid ticio’r un ac os na wnewch chi, ni fydd hyn yn effeithio ar eich adnodd yng nghanlyniadau chwiliad.

*Ydych chi’n darparu’ch gwasanaeth yn genedlaethol?: Mae hyn yn BWYSIG am y bydd yn helpu defnyddwyr wrth chwilio’r safle gan ddefnyddio cod post. Drwy gael hyn yn gywir byddwch chi’n helpu pobl i ddod o hyd i wasanaethau yn agos atyn nhw ac osgoi cael eu cyfeirio at wasanaethau nad ydyn nhw ar waith yn eu hardal nhw.

Mae angen i chi dicio ‘Ydw’ neu ‘Nac ydw’. Cofiwch glicio ‘Nesaf’ bob tro ar ôl gwneud eich dewis. Er enghraifft, os cliciwch ‘Ydw’ rwy’n darparu fy ngwasanaeth yn genedlaethol’ yna cliciwch ‘Nesaf’. Bydd Cymru yn ymddangos fel yr ardal rydych yn darparu’ch gwasanaeth ynddi.

Mae’r un peth yn wir os dewiswch ‘Nac ydw’. Bob tro y dewiswch chi opsiwn cliciwch ‘Nesaf’ nes i’r ardal rydych chi’n darparu’ch gwasanaeth ynddi yn ymddangos. Er enghraifft, os ydych chi’n darparu’ch gwasanaeth yng Ngwynedd a Sir Ddinbych, cewch chi ychwanegu’r ddwy ardal hyn. Mae ond angen cofio clicio ‘Nesaf’.

Gallwch chi fynd mor isel â lefel wardiau. Felly, os ydych chi’n darparu’ch gwasanaeth mewn rhai ardaloedd yn unig, yna cliciwch ar yr ardaloedd rydych chi’n eu gwasanaethu. Ar ôl i chi ddewis yr ardaloedd ar y map, cliciwch ‘Ychwanegu’r ardaloedd hyn’.

*Manylion cysylltu: Rhaid i chi ddewis o leiaf un dull cysylltu. 

Mae’r opsiynau yn cynnwys: rhif ffôn, ffôn testun, rhif ffôn tu allan i oriau arferol, ffôn symudol, ffacs, e-bost, ymholiad ar y we, y post ac yn bersonol. Gallwch chi ychwanegu amryw o ddulliau cysylltu e.e. os oes gennych chi ddau gyfeiriad e-bost neu dri rhif ffôn, gallwch chi barhau i ychwanegu’r rhain yn ôl yr angen.

Os oes gennych chi gyfeiriad, er enghraifft y gall rhywun ddod ato yn eich swyddfa, canolfan gymunedol ac ati, yna ychwanegwch gyfeiriad ‘yn bersonol’. Mae hyn yn BWYSIG gan ei bod yn caniatáu i ddefnyddwyr weld eich gwasanaeth gyda phin ar fap a thrwy roi eu cod post nhw, gallan nhw dderbyn cyfarwyddiadau am ei gyrraedd drwy yrru, cerdded, seiclo ac ar gludiant cyhoeddus. Byddech chi’n disgwyl bod gan ‘glwb cinio’ neu ‘ganolfan hamdden’, er enghraifft, gyfeiriad ‘yn bersonol’.

Cofiwch glicio ‘Cadw’r dull cysylltu hwn’ bob tro yr ychwanegwch chi ddull cysylltu newydd neu fel arall ni fyddan nhw’n cael eu hychwanegu.

Cyfryngau cymdeithasol: Ychwanegwch eich proffiliau Facebook, Twitter a chyfryngau cymdeithasol eraill os oes rhai gennych chi. Cewch chi ychwanegu mwy nag un. Mae ond angen gwneud yn siŵr eich bod chi’n clicio ‘Cadw’r proffil hwn’. 

Oriau agor a hygyrchedd: Ychwanegwch y dyddiau/amserau y gall pobl gysylltu â chi. Hefyd, os oes gennych chi gyfeiriad y gall pobl ymweld ag ef, gwnewch yn siŵr bod pobl yn gwybod a ydy’r adeilad yn hygyrch e.e. lifft, rampiau ac ati.

Y person cyfrifol a chyfeiriad e-bost y person cyfrifol: Y person cyfrifol yw’r person a fydd yn diweddaru’r wybodaeth yma yn y dyfodol. Ar ôl mewngofnodi bydd y system yn poblogi’r maes hwn yn awtomatig fel y sawl sydd wedi mewngofnodi. Ni fydd y manylion hyn yn ymddangos ar y wefan.

Cyfeiriad e-bost am adborth: Efallai y byddwch chi eisiau cynnwys cyfeiriad e-bost er mwyn i chi gael derbyn adborth am eich adnodd. Yn ddiofyn, hyd yn oed os nad ydych chi’n ychwanegu cyfeiriad e-bost adborth, bydd unrhyw adborth sy’n cael ei adael yn cael ei anfon yn awtomatig at y darparwr a ychwanegodd y cofnod. Ni fydd unrhyw adborth sy’n cael ei adael ar gael i’r cyhoedd. Ni fydd y manylion hyn yn ymddangos ar y wefan.

Y dyddiad adolygu: Dyddiad rydych chi’n ei bennu yw hwn. Pan ychwanegwch chi adnodd, y dyddiad adolygu sy’n cael ei ragosod yw 6 mis (uchafswm y misoedd y gallwch chi eu pennu). Mae’n rhaid i bob adnodd gael ei adolygu bob 6 mis.

Sut fydda i’n cofio pryd mae angen adolygu f’adnodd?: Bydd y system yn anfon negeseuon e-bost atoch chi:

  • 28 diwrnod cyn y dyddiad y daw eich adnodd i ben;
  • 14 diwrnod cyn y dyddiad y daw eich adnodd i ben (os nad ydych chi wedi gwneud unrhyw newidiadau);
  • 0 diwrnod pan fydd yn dod i ben wedyn (os nad ydych chi wedi gwneud unrhyw newidiadau o hyd). Yna mae’ch adnodd yn cael ei guddio ac nid yw’n weladwy ar Dewis Cymru; a
  • -14 diwrnod ar ôl i’ch adnodd ddod i ben.

Sylwch, os ydych chi’n ychwanegu ‘Digwyddiad’, byddech chi’n dymuno gosod y dyddiad i’r diwrnod ar ôl eich digwyddiad, fel bod eich gwybodaeth yn cael ei thynnu o’r system yn awtomatig. Mae digwyddiadau’n weithgaredd un-tro sydd â dyddiad dechrau a gorffen. Ni fydd y system yn anfon hysbysiadau e-bost atoch chi i adolygu’ch gwybodaeth.

Cadw f’adnodd

Yn y ‘Tab cyhoeddi’, a phan fyddwch chi’n hapus gyda’r wybodaeth yn eich adnodd ac yn barod i’ch gwybodaeth gael ei hadolygu cyn cael ei chyhoeddi yn y cyfeiriadur, ticiwch y blwch ‘Barod i gyhoeddi’. Os nad ydy’ch gwybodaeth yn barod i gael ei hadolygu, yna peidiwch â thicio’r blwch yma.

Yna cliciwch ‘Cadw’ch newidiadau’. Os anghofiwch chi dicio’r blwch ‘Barod i gyhoeddi’, bydd y system yn atgoffa chi eto pan gliciwch chi ‘Cadw’ch newidiadau’.

Os ticiwch chi’r blwch ‘Barod i gyhoeddi’ neu’n dewis ‘Ydw, adolygwch’, bydd eich gwybodaeth yn cael ei hanfon at ‘Olygydd’ i’w hadolygu a’i chyhoeddi, lle bo’n briodol. Gallwch chi ddewis, ‘Nac ydw, dwi ddim yn barod eto’ a gallwch chi ddod yn ôl at eich adnodd yn nes ymlaen.

Os dewiswch chi ‘Ydw, adolygwch’, bydd y system yn gofyn i chi ystyried eich rhwymedigaethau dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg? Gallwch chi ychwanegu unrhyw gyfieithiadau drwy’r tab ‘testun Cymraeg’ ar y brif dudalen.

Os dim ond yn cadw unrhyw newidiadau ydych chi, bydd amserydd yn ymddangos wrth i’ch newidiadau gael eu cadw. Weithiau gall hyn gymryd tua 30 eiliad. Ar ôl eu cadw, byddwch chi’n gweld ffenestr naid sy’n dweud ‘Mae’ch newidiadau wedi cael eu cadw’.

* Pam ydy fy ngwybodaeth i’n gwrthod cadw?: Os bydd eich newidiadau’n gwrthod cadw, y rheswm yn aml ydy nad ydych chi wedi cwblhau maes gorfodol (a chofiwch, efallai eich bod chi’n meddwl i chi eu cwblhau i gyd ond a wnaethoch chi glicio Nesaf neu Cadw’r dull cyswllt/proffil hwn?). Neu weithiau fe allai fod am eich bod wedi mynd dros yr uchafswm cymeriadau. Bydd Dewis Cymru yn dweud wrthych chi pa feysydd rydych chi heb eu cwblhau.

Ar ôl cael ei chadw, bydd eich gwybodaeth yn weladwy i ‘Olygydd’ o fewn eich ardal leol. Pan fyddan nhw wedi gwirio’ch gwybodaeth ac yn fodlon, byddan nhw’n cymeradwyo (cyhoeddi) eich adnodd. Gallai hyn gymryd ychydig o ddyddiau.

Yna bydd eich adnodd yn weladwy ar Dewis Cymru. Byddwch chi’n derbyn e-bost i roi gwybod i chi bod eich adnodd wedi cael ei gyhoeddi. 

Ychwanegu digwyddiadau

Os ydych chi’n cynnal digwyddiadau, beth am eu hychwanegu at Dewis Cymru?

I ychwanegu digwyddiad, cwblhewch y camau uchod, ond dewiswch ‘Digwyddiad wrth ddewis eich dosbarthiad. Os bydd y cymeriadau’n caniatáu, ystyriwch gynnwys yr amser, dyddiad a lle yn ‘Enw’r gwasanaeth’.

Byddech chi’n disgwyl bod gan y mwyafrif o ddigwyddiadau gyfeiriad mae’n bosibl ymweld ag ef e.e. neuadd y pentref, eglwys neu ysgol ac ati felly gwnewch yn siŵr eich bod chi bob amser yn ychwanegu cyfeiriad ‘yn bersonol’ yn yr adran ‘Dulliau cysylltu’. Mae hyn yn gadael i ddefnyddwyr weld eich gwasaneth gyda phin bawd ar fap a thrwy roi eu cod post byddan nhw’n gallu cael cyfarwyddiadau ar ei gyrraedd wrth yrru, cerdded, seiclo ac ar gludiant cyhoeddus.

 Ar ôl i chi gwblhau’ch holl wybodaeth ewch i’r tab Cyhoeddi a newidiwch y ‘dyddiad adolygu’ i’r diwrnod ar ôl eich digwyddiad. Mae hyn yn golygu y bydd y system yn dileu’ch ‘Digwyddiad’ o’r system yn awtomatig, felly does dim rhaid i chi wneud dim. Ni fydd y system yn anfon rhybuddion atoch chi i’ch atgoffa i ddiweddaru’ch gwybodaeth chwaith.

Ar ôl i’r wybodaeth am eich digwyddiad gael ei chymeradwyo, bydd yn weladwy ar y wefan. Bydd yn ymddangos hefyd yn yr adran ‘Digwyddiadau’ sydd ar gael drwy glicio ar y tab ‘Digwyddiadau’ ar y dudalen hafan.

Golygu’ch gwybodaeth yn Dewis Cymru

Beth ddylwn i ei wneud os ydy fy manylion yn anghywir/wedi newid ac mae angen i mi eu diwygio?: Cewch chi olygu’ch adnodd ar unrhyw adeg. Efallai bod eich rhif ffôn wedi newid, efallai bod eich oriau agor yn ymestyn neu efallai bod angen i chi olygu’r ardal rydych chi’n darparu’ch gwasanaeth ynddi. Y cyfan mae angen ei wneud yw ‘Mewngofnodi’.

Ewch i ‘Rheoli adnoddau’. Caiff unrhyw adnoddau rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw eu dangos yn y ddolen ‘Yr adnoddau rwyf yn gyfrifol amdanynt’. Mae hyd yn oed yn dweud wrthych chi nifer yr adnoddau rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw.

Cliciwch ‘Golygu’ ar yr adnodd mae angen ei ddiwygio a diwygiwch y meysydd fel y bo’n briodol. Cofiwch ‘cadw’ch newidiadau’.

Mae f’adnodd yn dod i ben/wedi dod i ben: Os cewch chi e-bost am adnodd yn dod i ben sy’n gofyn i chi ddiweddaru’ch adnodd, mae ond angen ‘Mewngofnodi’ ac adolygu’ch cynnwys. Os na fydd dim wedi newid, mae popeth yn iawn ond mae’n rhaid i chi ‘cadw’ch newidiadau’.

Os ydy’ch adnodd yn y cyfnod dod i ben yna bydd Dewis Cymru yn pennu dyddiad adolygu newydd o 6 mis yn awtomatig.

Wrth i chi ‘Olygu’ eich adnodd, bydd yn mynd ‘yn yr arfaeth’ ac nid ‘wedi ei gyhoeddi’. Felly nid yw’n weladwy yn Dewis Cymru bellach. Y rheswm am hyn yw i ‘Olygydd’ gael cymeradwyo’ch newidiadau. Ar ôl cael ei gymeradwyo, bydd eich adnodd yn weladwy yn y system eto a byddwch yn derbyn e-bost i ddweud hynny wrthych chi.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ar ôl i chi ddweud bod eich ‘Adnodd yn barod i’w gyhoeddi’, caiff eich gwybodaeth ei hadolygu gan ‘Olygydd’ cyn iddi gael ei chyhoeddi i gael ei gweld yn gyffredinol ar y wefan. Bydd gan y Golygydd(ion) sy’n adolygu’ch gwybodaeth ddealltwriaeth o’r math o adnodd rydych chi’n ychwanegu gwybodaeth amdano. Mae hyn yn cynnig haen ychwanegol bwysig o sicrwydd am ddibynadwyedd cofnodion, a hefyd i raddau helaeth yn dileu oedi ac anawsterau wrth sicrhau cyhoeddi adnoddau.

O bryd i’w gilydd, bydd Golygydd efallai’n cysylltu â chi drwy e-bost i egluro rhywfaint o’r wybodaeth rydych chi wedi ei chofnodi am eich adnodd. Gallai hyn ddigwydd os bydd Golygydd yn meddwl bod rhywfaint o’r wybodaeth rydych chi wedi ei rhoi yn ddryslyd, neu y gallai gael ei gwella. Y nod yw sicrhau bod pobl sy’n ymweld â Dewis Cymru yn derbyn gwybodaeth a chyngor ansawdd da.

Angen mwy o help?

Os oes angen help a chefnogaeth arnoch chi, defnyddiwch y tab ‘Cysylltwch â Dewis’ yn nhroedyn y wefan. Bydd aelod o dîm Dewis Cymru yn cysylltu â chi. 

Nodiadau cyfarwyddyd

Mae’r nodiadau hyn wedi cael eu cynhyrchu i’ch cynorthwyo i ychwanegu gwybodaeth at Dewis Cymru.

Beth ydy ‘llesiant’?

Gwefan a gafodd ei datblygu i gefnogi a gwella Llesiant dinasyddion Cymru yw Dewis Cymru. Dywed Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

'Mae llesiant yn golygu bod person yn hapus, yn iach ac yn gysurus gyda’u bywyd a’r hyn maent yn ei wneud’

Mae iddo wyth rhan, sef:

1. Gwneud yn siŵr bod gennych chi eich hawliau

2. Bod yn hapus yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol

3. Cael eich amddiffyn rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod

4. Derbyn addysg, hyfforddiant, chwaraeon a gweithgareddau hamdden

5. Perthnasoedd positif â’ch teulu a ffrindiau

6. Bod yn rhan o’r gymuned

7. Bywyd cymdeithasol a digon o arian i fyw bywyd iach

8. Cael bywyd da.

Efallai y byddwch chi am ystyried a ydy’r wybodaeth am adnodd sy’n cael ei hychwanegu at Dewis Cymru yn cyd-fynd â’r diffniad yma ac a fyddai o fudd i bobl sy’n defnyddio’r wefan.

Beth ydy ‘Adnodd’?

Rydym ni’n defnyddio’r gair ‘adnodd’ yn hytrach na ‘gwasanaeth’ am fod hynny yn ein barn ni’n cwmpasu ystod ehangach o grwpiau lleol a chymunedol, nad ydyn nhw efallai’n meddwl amdanyn nhw eu hunain fel gwasanaeth yn yr ystyr traddodiadol. Nid oes unrhyw ddiffiniad sefydledig o beth yw adnodd, ond gallai adnodd gael ei ystyried yn:

  • Lle neu beth sy’n darparu rhywbeth defnyddiol;
  • Ffynhonnell gwybodaeth neu arbenigedd;
  • Ffynhonnell cyflenwad, cefnogaeth neu gymorth: yn arbennig un mae’n hawdd manteisio arni pan fydd angen;
  • Rhywbeth mae angen troi ato mewn adeg o angen; a
  • Dull o wneud rhywbeth.

Yn yr un modd â’r diffiniad o lesiant, efallai y byddwch yn dymuno ystyried y diffiniad uchod wrth ystyried ychwanegu gwybodaeth am adnodd.

Ystyriaethau’r canllawiau am adnoddau

Mae’r safonau hyn wedi cael eu datblygu drwy ymgynghori â dinasyddion, gweithwyr proffesiynol a darparwyr ledled Cymru a’r bwriad helpu Newyddiadurwyr a Golygyddion i ddisgrifio sut olwg sydd ar wybodaeth ansawdd da ar gyfer Dewis Cymru. Ar gyfer yr wybodaeth sy’n cael ei chadw ar Dewis Cymru, ansawdd, perthnasedd, dibynadwyedd, ymddiriedaeth ac amhleidioldeb yw’r egwyddorion allweddol, er mwyn i’r Cyfeiriadur lwyddo yn y tymor hir.

Mae angen i wybodaeth fod... Ystyriwch...
Yn ddefnyddiol A yw’r wybodaeth yn syml ac yn disgrifio’r adnodd yn llawn.
Yn briodol i Lesiant ac i egwyddorion a nodau Dewis Cymru. A yw’r wybodaeth sy’n cael ei hychwanegu yn cyd-fynd â’r diffiniad uchod o adnodd llesiant.
Yn gywir A yw’r wybodaeth sy’n cael ei rhoi yn gywir.
Yn gyfredol Gwirio bod yr wybodaeth sy’n cael ei rhoi yn gyfredol. Bydd yn hawdd ei diweddaru’n nes ymlaen os bydd pethau’n newid.
Wedi ei hysgrifennu i gael ei deall A yw’r wybodaeth yn hawdd ei deall i’r sawl y mae disgwyl iddyn nhw ei darllen. Ystyriwch, er enghraifft, a fydd y cyhoedd yn deall unrhyw dermau proffesiynol sy’n cael eu defnyddio.

Lawrlwytho PDF