Er y gall hi fod yn braf ymlacio gartref, gall fod yn hwb ardderchog i forâl i fynd allan am y diwrnod weithiau.
Rydym ni’n ffodus byw yng Nghymru achos mae llawer iawn o lefydd gwych i fynd ar garreg eich drws, o gestyll i dai hanesyddol, amgueddfeydd, gerddi wedi eu tirlunio, traethau, theatrau a chanolfannau siopa.
Ni ddylai’ch gallu i symud neu anabledd arall fod yn broblem.
Ers 2004, mae’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau o dan y gyfraith wneud ‘addasiadau rhesymol’ i’w heidio i oresgyn rhwystrau ffisegol a allai wedi atal rhai ymwelwyr yn y gorffennol rhag cael mynediad.
Er y gall y Parciau Cenedlaethol a mannau hardd gwledig beri problem o hyd os oes gennych chi gyfyngiadau wrth symud, erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o atyniadau yn hygyrch i’r mwyafrif o ymwelwyr.
Ble i fynd
Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru saith amgueddfa, pob un yn rhad ac am ddim. Mae gwybodaeth fanwl i ymwelwyr anabl â phob amgueddfa ar gael ar-lein (gan gynnwys fformat sain).
Cadw sy’n gyfrifol am 128 o gestyll, abatai, eglwysi, capeli a henebion eraill. Mae gofalwyr a chymdeithion sy’n hebrwng rhywun anabl yn cael mynediad am ddim i bob heneb. Hefyd mae croeso i gŵn cymorth. Mae toiledau i’r anabl, parcio i’w anabl a sgwteri modur/ cadeiriau olwyn ar gael ond gwiriwch ymlaen llaw.
Mae gan o mwyafrif o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol doiledau i’r anabl a benthyg cadeiriau olwynion am ddim. Mae cerbydau symudedd ar gael mewn lleoliadau sydd â gerddi a thiroedd mawr. Mae’r Cerdyn ‘Admit One’ Mynediad i Bawb yn rhoi mynediad am ddim i ofalwr neu gydymaith angenrheidiol rhywun anabl. Mae gan y mwyafrif o eiddo doiledau i’r anabl maent yn rhoi benthyg cadeiriau olwyn am ddim. Mae gan y mwyafrif o eiddo doiledau i’r anabl maent yn rhoi benthyg cadeiriau olwyn am ddim. Mae mwy o wybodaeth i ymwelwyr ag anableddau ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (Saesneg yn unig).
Mae’r Rough Guide to Accessible Britain yn cynnwys mwy na 200 o syniadau ysbrydoledig am ddiwrnodau allan rhydd rhag pryderon i bobl anabl. Gallwch ei lawrlwytho (Saesneg yn unig) yn rhad ac am ddim.
Mae ‘Where can we go (Saesneg yn unig)’ yn rhestru beth sy’n digwydd mewn trefi a dinasoedd penodol ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys beth sy’n digwydd ar ddyddiadau penodol.
Mae mwy o syniadau am ddiwrnodau rhad allan i’w gweld ar The Money Saving Expert (Saesneg yn unig).
Llogi cadeiriau olwyn a sgwteri
Mae llawer o atyniadau yn cynnig llogi cadeiriau olwyn neu sgwteri am ddim. Gwiriwch ymlaen llaw i weld beth sydd ar gael.
Mae Shopmobility (Saesneg yn unig) yn rhoi benthyg sgwteri, cadeiriau olwyn (trydanol a rhai â llaw) a chymhorthion cerdded eraill yn rhad ac am ddim neu am dâl bach - i chi eu defnyddio yng nghanol trefi/dinasoedd a chyfleusterau hamdden.
Toiledau hygyrch ac allweddi NKS Radar
Mae cyfleusterau toiled hygyrch gan y rhan fwyaf o gyfleusterau hamdden, atyniadau twristiaid a chanolfannau siopa.
Mae rhyw 9,000 o doiledau yn y DU wedi eu gosod ag allweddi NKS Radar, gan gynnwys swyddfeydd cyngor, canolfannau siopa a gorsafoedd bysiau/trenau. Prynwch eich allwedd NKS Radar eich hun ac ni fydd rhaid i chi aros i aelod o staff ddatgloi’r drws. Mae’r cynllun yn cael ei gyd-drefnu gan Disability Rights UK (Saesneg yn unig).