skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae bod yn gymdeithasol yn dod yn naturiol pan fyddwch chi’n ifanc ac yn iach; ond mae’n gallu bod yn anos cynnal perthynas a chyfeillgarwch – heb sôn am greu rhai newydd – pan fyddwch chi’n hŷn neu’n anabl, neu os ydych chi’n ofalwr sy’n edrych ar ôl rhywun arall.

Os ydych chi’n methu mynd allan heb gefnogaeth mae’n mynd yn llawer mwy anodd cynnal unrhyw fath o fywyd cymdeithasol, dyna mae mae  rhai pobl yn mynd yn ynysig weithiau.

Mae ymddeoliad a phrofedigaeth - neu’n syml pan fydd ffrindiau a’r teulu yn symud i ffwrdd - yn gallu arwain at eich cylch cymdeithasol yn gwanhau dros y blynyddoedd nes i chi deimlo nad oes gennych chi neb ar ôl i sgwrsio â nhw.

Ond mae’n bwysig peidio â chael eich gwahanu rhag pobl eraill. Mae astudiaethau di-rif wedi dangos bod pobl sydd â ffrindiau a rhwydweithiau cymunedol cryf yn iachach yn gorfforol ac yn llawer llai tebygol o fynd yn unig, ynysig ac yn isel.

Mae pob math o gyfleoedd i ymuno â phobl eraill mewn gwahanol grwpiau a chlybiau, gweithgareddau dan do ac awyr agored a thrwy fynd â’ch hun i fwrdd am wyliau.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai yr ystyriwch chwilio am waith neu efallai dychwelyd i addysg. Os oes gennych chi amser ar eich dwylo, mae hen ddigon o gyfleoedd gwirfoddoli o gwmpas, gan gynnwys rolau i bobl sy’n dymuno gwirfoddoli o gartref.

Os oes gennych chi broblemau wrth symud ac yn derbyn rhai budd-daliadau penodol, efallai eich bod chi’n gymwys i dderbyn car newydd o dan Gynllun Ceir Motability neu Fathodyn Glas.

Weithiau, dim ond newid golygfa sydd angen: gwyliau efallai neu, os ydych chi’n ofalwr, bydd seibiant bach i roi hoe i chi rhag eich rôl ofalu ac yn cynnig cyfle i chi fynd allan a chwrdd â phobl. Os bydd eich cynlluniau’n cynnwys teithio, gwiriwch ymlaen llaw pa gymorth all gael ei ddarparu ar gludiant cyhoeddus.

Diolch i dechnoleg a chyfryngau cymdeithasol, nid oes rhaid i fod yn gymdeithasol olygu gadael eich cartref. Mae cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a’ch teulu yn hawdd gydag e-bost a safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel Facebook. Yn dibynnu ar eich diddordebau, byddwch chi efallai’n mwynhau gwneud ffrindiau ar-lein. Erbyn hyn mae llawer o elusennau cenedlaethol yn cynnal fforymau ar-lein lle gallwch chi sgwrsio â phobl sydd mewn amgylchiadau tebyg o gwmpas y byd ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.

Os yw sgyrsiau wyneb yn wyneb yn well gennych chi, mae amrywiol gynlluniau cyfeillio yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a ble rydych chi’n byw.

Hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo fel bod yn gymdeithasgar drwy’r amser, cofiwch fod cael sgwrs gyfeillgar gyda rhywun yn un o’r dulliau mwyaf pleserus o wella’ch llesiant cyffredinol chi.

Diweddariad diwethaf: 17/04/2023