skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

O gerdded a seiclo, i hwylio a dringo, Cymru yw’r lle perffaith i fwynhau gweithgareddau awyr agored. Does dim ots beth yw’ch oedran, ydych chi’n abl neu’n anabl, does dim amser fel y presennol i fod yn fwy gweithgar.

Cofiwch, y gyfrinach yw darganfod pa weithgarwch rydych chi wir yn mwynhau ei wneud - ac yna ei wneud yn rheolaidd.

Cerdded

Cerdded yw un o’r dulliau mwyaf hawdd a phleserus o wella’ch ffitrwydd corfforol a chodi’ch hwyliau. Nid oes angen offer arbennig arnoch chi, dim ond esgidiau cyfforddus a gallwch chi fynd ati i gerdded ar unwaith, o’ch drws ffrynt os dymunwch chi.

Mae cerdded Llychlynnaidd yn llai blinderus ond yn well byth i chi na cherdded arferol. Drwy gerdded gyda pholau ysgafn rydych chi’n ymarfer cyhyrau’r corff uchaf a’ch corff isaf. Cysylltwch ag Age Cymru (Saesneg yn unig) am fwy o fanylion.

Mae gan y mwyafrif o gynghorau lleol deithiau cerdded sy’n cael eu hyrwyddo: ewch i’w gwefannau neu cysylltwch â’r adran cefn gwlad am fanylion. Ewch i wefannau fel All Trails, Walking World a Strava i gael syniadau am deithiau cerdded, neu i gerdded rhannau o Lwybr Arfordir Cymru neu un o dri Llwybr Cenedlaethol Cymru.
(Saesneg yn unig).

Grŵp cerdded

Mae gan Ramblers Cymru (Saesneg yn unig) grwpiau ledled Cymru ac mae llawer o grwpiau Prifysgol y Drydedd Oes (Saesneg yn unig) yn trefnu teithiau cerdded undydd neu hanner diwrnod i bobl o bob anabledd.

Mae Disabled Ramblers UK yn trefnu tua 30 o grwydrau bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr i bobl â phroblemau symudedd sy’n defnyddio bygis, cadeiriau olwyn wedi eu pweru a sgwteri.

Seiclo

Mae seiclo’n dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith pobl o bob oedran a gallu, gan gynnwys pobl anabl. Mae yna feiciau sy’n addas i bawb: beiciau ffordd, mynydd, tandem, ochr yn ochr, e-feiciau, beiciau llaw, beiciau cadair olwyn a beiciau gorweddol. Mewn rhai ardaloedd, gallwch chi logi beiciau fesul awr neu ddiwrnod.

Mae gan y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol fwy na 1,200 milltir o lwybrau seiclo yng Nghymru (mae rhai ohonynt yn ddelfrydol ar gyfer cerdded hefyd). Ac os nad ydych chi’n dymuno mynd allan ar eich pen eich hun, beth am gael cip ar Let's Ride (Saesneg yn unig) a gweld pwy arall sy’n seiclo yn eich ardal chi.

Mae llawer o glybiau seiclo yn cynnig cyfleoedd i bobl anabl (gan gynnwys y sawl sy’n dymuno ymgymryd â seiclo difrifol). Cysylltwch â Welsh Cycling (Saesneg yn unig) am fwy o wybodaeth.

Nofio gwyllt

Mae nofio gwyllt mewn afonydd, rhaeadrau a llynnoedd yn dod yn boblogaidd iawn, gyda phobl o bob oed; fodd bynnag, mae peryglon ynghlwm wrth blymio i ddyfroedd anhysbys.

Bydd yr awgrymiadau diogelwch dŵr agored (Saesneg yn unig) hyn yn eich helpu i aros yn ddiogel. Ewch i Nofio Gwyllt (Saesneg yn unig) am rai o'r lleoedd awyr agored gorau i nofio yn y DU.

Cymorth ychwanegol ar gyfer athletwyr anabl

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn gweithio gyda mwy na 750 o glybiau a grwpiau chwaraeon ledled Cymru i ddarparu cyfleoedd chwaraeon awyr agored (a dan do) i blant ac oedolion anabl. Chwiliwch am weithgareddau yn eich ardal chi neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu chwaraeon anabledd lleol.

Mae gan y Mudiad Paralympaidd (Saesneg yn unig) grynodebau o’r holl chwaraeon cystadleuol sy’n cael eu cynnwys yn y gemau Paralympaidd, gyda manylion sut i gymryd rhan.

Mae Phab (Saesneg yn unig) yn dod â phlant ac oedolion o bobl gallu ynghyd i fwynhau gweithgareddau a gwyliau awyr agored gyda’i gilydd.

Rhedeg

Mae poblogrwydd parkrun (Saesneg yn unig), Race for Life a channoedd o ddigwyddiadau rhedeg eraill, o rasiau elusen 5 cilometr i farathonau a digwyddiadau eithafol, yn cadarnhau bod rhedeg erbyn hyn yn weithgarwch prif-ffrwd.

P’un a fyddai’n well gennych chi redeg ar drac, ar yr heol, llwybrau neu draws gwlad, nid oes unrhyw ffordd well o ddod yn ffit yn yr awyr agored a gwneud ffrindiau newydd. Os ydych chi’n ddall neu mae nam ar eich golwg ac yn dymuno rhedeg gyda rhedwr tywys, cysylltwch â Chwaraeon Anabledd Cymru.

Mae gan Athletau Cymru (Saesneg yn unig) restr o glybiau rhedeg, y mae llawer ohonynt yn cynnal cyrsiau Soffa i 5k ar gyfer dechreuwyr pur.

Bowlio

Mae pobl o bob oedran yn gallu mwynhau bowliau a hynny yn yr awyr agored a dan do. Mae’n cynnig gweithgaredd mwyn a chyfle i gymdeithasu. Yn aml bydd clybiau’n cynnal diwrnodau agored er mwyn denu aelodau newydd.

Am fwy o wybodaeth a’ch clwb agosaf cysylltwch â Bowlio Cymru (Saesneg yn unig) neu Gymdeithas Bowlio Benywod Cymru (Saesneg yn unig).

Golff

Mae chwarae rownd o golff neu ddau gyda ffrindiau yn ffordd gymdeithasgar iawn o fynd allan i’r awyr agored a gwneud ychydig o ymarfer.

Mae Golff Cymru yn rhestru pob cwrs yng Nghymru. Mae’r mwyafrif yn croesawu ymwelwyr (weithiau mae’r dyddiau’n cael eu cyfyngu) neu gallwch chi chwarae ar gwrs bwrdeistrefol.

Mae Cymdeithas Golffwyr Anabl Cymru (Saesneg yn unig) yn trefnu digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Marchogaeth

Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain (Saesneg yn unig) yn darparu gwybodaeth ar gyfer marchogion profiadol a rhai sy'n dysgu, gan gynnwys ble y gallwch ddysgu marchogaeth.

Darganfyddwch lwybrau ceffyl ledled y DU ar wefan y Gymdeithas Mannau Agored (Saesneg yn unig).

Mae Riding for the Disabled (Saesneg yn unig) yn trefnu gweithgareddau marchogol, e.e. marchogaeth, gyrru cerbyd, i bobl ag anableddau.

Chwaraeon tîm

P’un a ydych chi’n ymddiddori mewn pêl-droed, pêl-rwyd, criced, rhwyfo, pêl-fasged, tennis neu unrhyw chwaraeon eraill, mae’n debygol y bydd clwb a fyddai’n eich croesawu chi.

Ewch i Sport Wales neu cysylltwch â thîm datblygu chwaraeon eich cyngor lleol (Saesneg yn unig) neu’ch swyddog datblygu chwaraeon anabl lleol i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.

Hwylio a chwaraeon dŵr

Mae hwylio’n boblogaidd gyda phob math o bobl, gan gynnwys pobl ifanc ac abl, yn ogystal â phobl hŷn a phobl anabl. Cysylltwch â Welsh Sailing (Saesneg yn unig) i gael gwybod mwy.

Mae gan Watersports Wales (Saesneg yn unig) wybodaeth weithgareddau fel rhwyfo, syrffio a chanŵio.

Diweddariad diwethaf: 27/03/2023