Mae bod yn iach yn fwy na dim ond bod yn gorfforol iach ac yn rhydd rhag afiechyd, mae’n ymwneud hefyd â sut ydych yn teimlo am eich hun ac am eich bywyd yn ei grynswth.
Yn aml mae pobl yn teimlo synnwyr uwch o lesiant pan fydd ganddyn nhw rymdweithiau cymdeithasol cryf, llety addas, pan fyddan nhw mewn cyflogaeth a/neu addysg (os ydyn nhw’n dymuno bod) a phan fyddan nhw’n iach yn gorfforol ac yn emosiynol.
Eich hawl chi yw gwneud penderfyniadau am eich bywyd eich hun, gan gynnwys lle rydych chi’n byw, pa gefnogaeth rydych chi’n eu derbyn, ac ati. Os credwch nad oes neb yn gwrando arnoch chi, gallwch chi ofyn am help i gael leisio’ch barn.
Mae bod yn iach yn cynnwys edrych ar ôl eich iechyd corfforol: bwyta digon o ffrwythau a llysiau, yfed llawer o hylifau, defnyddio alcohol yn gymedrol a rhoi’r gorau i ysmygu.
Mynychwch wiriadau iechyd rhelaidd, gan gynnwys gwiriadau deintyddol a phrofion llygaid. Ewch i weld eich meddyg teulu pryd bynnag y bydd gennych chi bryderon iechyd; mae diabetes a phwysedd gwaed uchel yn gyffredin ac yn driniadwy ac mae problemau iechyd mwy difrifol yn haws eu trin os bydd y diagnosis yn gynnar. Os ydych chi’n gofalu am rywun, gadewch i’ch meddyg teulu wybod.
Cymerwch feddyginiaeth yn rheolaidd yn unol â’ch presgripsiwn. Mae presgripsiynau’n ddi-dâl yng Nghymru a bydd llawer o fferyllfeydd yn dosbarthu meddyginiaeth a gaiff ei rhagnodi i garreg eich drws yn rhad ac am ddim.
Mae ymarfer corff yn wych i godi’ch hwyliau felly ceisiwch aros mor weithgar ag y mae’ch iechyd a’ch amgylchiadau yn caniatáu. Nid yw bod yn weithgar o reidrwydd yn golygu gwneud llawer o ymarfer egnïol. Cerddwch dipyn bach bob dydd – gydag offer i’ch helpu i gerdded os oes angen – a llaeswch eich cymalau’n rheolaidd i’w cadw nhw i symud.
Mae nofio yn rhoi llai o bwysau ar eich cymalau nag ymarfer sy’n dwyn eich pwysau fel rhedeg ac ymarfer aerobeg. Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn, manteisiwch ar y sesiynau nofio am ddim yn eich pwll nofio lleol bydd argaeledd yn amrywio.
Cadwch mewn cysylltiad â’ch teulu a ffrindiau. Codwch y ffôn a gwnewch yr alwad yna. Mae pawb yn teimlo’n isel ar brydiau, ond os ydych chi’n teimlo’n unig dwedwch wrth rywun sut rydych chi’n teimlo.
Os nad ydych chi’n cael anhawster i ymdopi â gweithgareddau arferol bob dydd, efallai ei bod hi’n bryd gofyn am ofal a chymorth oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol.
Gwybodaeth a chymorth
Mae Bywyd Actif yn gwrs ar-lein rhad ac am ddim sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu i wella'ch iechyd meddwl a'ch lles. Mae pedwar fideo yn canolbwyntio ar wahanol elfennau o les.
Mae’r pum ffordd at les yn cyfateb i’r ‘pum dogn o ffrwythau a llusiau y dydd’ o safbwynt llesiant. Mae’n cael ei argymell bod unigolion yn ymgorffori’r pum ffordd yn eu bywydau bob dydd er mwyn gwella eu lles.