skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae meddyginiaeth yn gallu achub bywyd, nid mewn sefyllfaoedd argyfwng a byrdymor yn unig, ond wrth drin anhwylderau cronig fel diabetes, pwysedd gwaed uchel ac asthma hefyd.

Mae’n gallu bod yn beryglus os caiff ei chymryd yn anghywir, mewn dognau rhy uchel neu gan rywun na chafodd y feddyginiaeth ei rhagnodi ar eu cyfer.

Os yw’ch meddyginiaeth chi’n cael ei rhagnodi gan eich meddyg teulu neu feddyg ysbyty, mae’n hanfodol eich bod chi’n ei chymryd yn union fel maen nhw’n dweud wrthych, h.y. y swm cywir ar yr adeg gywir.

Mae yr un mor bwysig cymryd y swm cywir o gyffuriau dros-y-cownter. Mae hyd yn oed cyffuriau sy’n lladd poen fel parasetamol yn gallu bod yn beryglus os cymerwch chi ormod mewn cyfnod penodedig.

Ni ddylai meddyginiaeth dros y cownter gael ei defnyddio gyda meddyginiaeth bresgripsiwn oni bai bod meddyg wedi cadarnhau ei bod yn ddiogel gwneud hynny.

Mynnwch gadw unrhyw feddyginiaeth ymhell tu allan i gyrraedd plant.

Help wrth gymryd meddyginiaeth

Os ydych chi’n anghofio cymryd eich meddyginiaeth yn rheolaidd – neu mae arnoch chi gymorth i’w chymryd – mae’n bosib y cewch chi help fel rhan o’ch pecyn gofal. Soniwch wrth eich gweithiwr cymdeithasol am hyn neu os nad oes pecyn gofal gennych chi ar hyn o bryd, cysylltwch ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol a gofynnwch am asesiad anghenion.

Helpu rhywun arall i gymryd meddyginiaeth

Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun, mae’n bosib y byddan nhw’n gofyn am eich help i gymryd eu meddyginiaeth. Does dim bod yn bod ar hynny, ar yr amod ei bod wedi ei rhagnodi gan feddyg neu gan rywun ag awdurdod.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn neu’r blwch dognau yn ofalus. Os bydd yr unigolyn yn gwrthod meddyginiaeth gofynnwch am gyngor gan eu meddyg. Peidiwch â mathru pils, agor capsiwlau na chymysgu’r naill neu’r llall â bwyd neu ddiod a pheidiwch byth â gorfodi rhywun i gymryd meddyginiaeth heb eu caniatâd.

Ewch ag unrhyw feddyginiaeth sydd heb ei defnyddio – neu sydd wedi mynd yn hen – yn ôl i’r fferyllydd, a fydd yn cael gwared arni’n ddiogel.

Presgripsiynau

Os oes rhaid i chi neu’r sawl rydych chi’n edrych ar ei ôl gymryd meddyginiaeth reolaidd, holwch a ydy’ch meddyg teulu’n cymryd rhan yn y cynllun meddyginiaeth amlroddadwy. Os ydy, mae ond angen i chi gofrestru â’r fferyllfa leol. Bydd eich meddyg yn anfon eich presgripsiwn yn uniongyrchol at y fferyllfa.

Mae rhai fferyllfeydd yn cynnig gwasanaethau dosbarthu cartref am ddim hefyd i bobl sy’n ei chael hi’n anodd casglu eu presgripsiynau.

I ddod o hyd i’ch fferyllfa agosaf (neu’r un agosaf at eich meddyg teulu), chwiliwch GIG 111 Cymru (defnyddiwch eich cod post, tref neu enw’r fferyllfa).

Bocsys dognau bach a phecynnau pothelli

Os cymerwch chi dabledi ar adegau gwahanol o’r dydd, efallai y byddai’n well gennych ddefnyddio bocs sy’n cynnwys adrannau ar wahân ar gyfer y bore, y prynhawn a’r nos. Bydd hyn yn eich helpu i gofio i gymryd y dabled gywir ar yr adeg gywir o’r dydd.

Gallwch chi lenwi’ch blwch dognau bach eich hun (neu ofyn i aelod o’r teulu ei wneud ar eich rhan) neu gallwch chi ofyn i’ch fferyllydd gyflenwi’ch meddyginiaethau rheolaidd mewn math arbennig o flwch dognau bach sydd ag adrannau wedi eu selio - hynny yw pecyn pothelli.

Gallwch chi brynu dosbarthwyr pils awtomatig hefyd sy’n blipio ar yr adeg briodol ac yn caniatáu cymryd dim ond y pils priodol.

Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin

Mae llawer o fferyllfeydd ledled Cymru (er nid pob un) yn rhan o’r cynllun hwn sy’n dileu’r angen i ymweld â meddyg teulu ar gyfer mân anhwylderau cyffredin, fel tarwden y traed, brech yr ieir, llid yr amrant, llau pen, rhwymedd, haemorrhoidau a’r llindag.

Mae ond angen i chi fynd i’ch fferyllfa leol am gyngor dim a thriniaeth gan weithiwr iechyd proffesiynol cymwys. Ni fydd unrhyw dâl yn cael ei godi am unrhyw feddyginiaeth sy’n cael ei hargymell a’i darparu.

Mae'r daflen hon yn esbonio'r cynllun yn fanylach.

Diweddariad diwethaf: 04/04/2023