Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun ag anghenion gofal a chymorth a fyddai’n methu ymdopi heb eich help chi, rydych yn ofalwr.
Efallai eich bod wedi darparu gofal ers amser maith neu efallai eich bod wedi dechrau cefnogi rhywun yn ddiweddar.
Yng Nghymru, mae’r gyfraith yn diffinio gofalwr fel rhywun sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu i blentyn anabl.
Nid yw gofalwyr di-dâl sy’n edrych ar ôl aelod o’r teulu, ffrindiau neu gymdogion yr un peth â gweithwyr gofal sy’n cael eu talu neu staff sy’n cael eu cyflogi gan gyrff iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, asiantaethau gwirfoddol neu breifat.
Ar gyfer gofalwyr di-dâl y mae’r wybodaeth yn yr adran hon. Bydd yn dweud wrthych chi am:
Cydnabod eich hun fel gofalwr
Mae gofalwr di-dâl yn rhywun sy’n helpu rhywun arall i fyw yn annibynnol gartref.
Efallai eich bod chi’n edrych ar ôl eich mam neu dad, eich gŵr neu’ch gwraig, ffrind neu bartner, brawd neu chwaer, eich merch neu’ch mab, neu hyd yn oed cymydog oedrannus.
Mae rhai gofalwyr yn edrych ar ôl mwy nag un person – rhiant oedrannus efallai a phlentyn anabl neu bartner ag anhwylder hirdymor a ffrind.
Does dim rhaid i chi fod yn byw yn yr un tŷ i fod yn ofalwr i rywun. Efallai eich bod yn galw i mewn sawl gwaith y dydd i’w helpu i godi, cael rhywbeth i fwyta neu gymryd eu meddyginiaeth. Efallai eich bod chi’n gofalu am fwy nag un person fel hyn neu o bosib yn helpu rhywun arall i ofalu am un person.
Nid yw gofalwyr yn cael eu talu ac ni ddylai eu rôl gael ei drysu â’r gweithwyr gofal (sy’n derbyn tâl) sydd yn aml yn rhan o ofal rhywun.
Peidiwch â bod yn ofalwr ‘cudd’
Mae’n bwysig adnabod eich hun fel gofalwr achos mae’r statws yn rhoi hawliau cyfreithiol ychwanegol i chi a bydd yn eich helpu i gael y cymorth mae arnoch chi ei angen.
Dwedwch wrth eich meddyg teulu a’ch cyflogwr eich bod chi’n ofalwr – mae’n bwysig yn achos argyfwng.
Yr hawl i gymorth
Ni fyddai neb yn disgwyl i chi gyflawni’ch cyfrifoldebau gofalu heb unrhyw gymorth.
Mae bod yn ofalwr i rywun yn gallu dod â boddhad. Mae’n gallu bod yn heriol hefyd ac yn llafurus, yn enwedig os oes angen gofal bob awr o’r dydd a’r nos ar y sawl sy’n derbyn y gofal, o ganlyniad i ddementia, anabledd corfforol neu ddysgu, cyflwr iechyd meddwl neu anhwylder tymor hir.
Os bydd eich cyngor lleol yn gwybod eich bod chi’n gofalu am rywun, mae ganddo ddyletswydd i gynnig asesiad anghenion gofalwr i chi’n rhad ac am ddimer mwyn darganfod a ydych chi’n abl ac yn fodlon parhau yn eich rôl ofalu a pha gymorth mae arnoch chi ei angen.
Nid peth hawdd yw gofalu am rywun felly mae’n bwysig eich bod chi’n chwilio am gymorth cyn i chi gyrraedd pwynt argyfwng neu mae yna frys.
Siarad â phobl eraill
Weithiau mae gofalwyr yn teimlo’n ynysig iawn yn eu rôl. Mae llawer o grwpiau cymorth gofalwyr a chanolfannau gofalwyr ledled Cymru. Chwiliwch Dewis i gael gweld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.
Gofalwyr ifanc
Nid oedolion yn unig sy’n ysgwyddo rôl ofalu - mae llawer o blant a phobl ifanc yn helpu i edrych ar ôl rhywun ag anghenion cymorth.
Mwy o wybodaeth
Carers UK wedi cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr ar asesiadau ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.