skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Peth naturiol yw eisiau helpu’ch rhieni neu berthynas neu ffrind arall wrth iddyn nhw heneiddio a dod yn llai abl; ond yn aml gall yr hyn a ddechreuodd fel ymweliad dyddiol neu roi help llaw achlysurol dyfu’n rhywbeth roeddech chi’n gwbl amharod amdano – rôl ofalu.

Mae edrych ar ôl rhywun hŷn yn gallu bod yn ymestynnol – yn aml bydd ganddyn nhw anghenion cymhleth ac anhwylderau hir-dymor, gan gynnwys dementia.

Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn golygu bod llawer o bobl sydd wedi ymddeol yn gofalu am rieni sydd yn eu 80au, 90au a hyd yn oed yn hŷn. Os ydych chi o oedran gweithio, efallai eich bod chi’n ceisio cydbwyso gofal eich perthnasau oedrannus ac ymrwymiadau’ch teulu a gwaith.

Cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i gael asesiad anghenion rhywun hŷn neu adolygiad o’u hanghenion. Dylai asesiad anghenion gofalwr, gael ei gynnig i chi ond os na, gofynnwch am un.

Y tai cywir

Mae’n gallu bod yn anodd iawn gadael y cartref sy’n dal llond oes o atgofion hapus; ond os yw’r person hŷn yn methu mynd i mewn ac allan o’r eiddo, neu’n defnyddio ystafell wely neu ystafell ymolchi i fyny’r grisiau, efallai ei bod yn bryd ystyried symud i lety â chymorth heu hyd yn oed gofal preswyll.

Efallai y credwch mai’r opsiwn gorau yw i’r person hŷn fyw gyda chi; fodd bynnag, rhowch ystyriaeth sylweddol i hynny’n gyntaf.

Os nad ydy symud yn bosibl o gwbl, mynnwch wybod a oes modd gwneud unrhyw addasiadau i gartref presennol y person.

Technoleg

Mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu ei bod yn llawer mwy diogel erbyn hyn i rywun hŷn neu fregus barhau i fyw yn annibynnol gartref. 

Bydd tele-ofal a larymau cymunedol yn rhoi tawelwch meddwl i chi pan na allwch chi fod yno, a bydd cymhorthion byw bob dydd yn helpu’r person hŷn i gyflawni rhai tasgau drostynt eu hunain.

Am fwy o wybodaeth am yr offer a’r dechnoleg a allai’ch helpu chi yn eich rôl ofalu, ewch i Carers UK (Saesneg yn unig).

Pan fydd y ddau ohonoch chi’n ofalwyr

Nid yw’n anghyffredin i ddau berson hŷn ag anghenion gofal a chymorth fod yn gofalu am ei gilydd. Ni fyddai’r naill neu’r llall ohonoch chi’n gallu ymdopi ar eich pen eich hun, ond gyda’ch gilydd rydych chi’n llwyddo i ymdopi.

Os dyma’ch sefyllfa chi, mae’n well gofyn am help cyn i bethau gyrraedd argyfwng, hyd yn oed os dim ond gwybodaeth neu gyngor rydych chi eu heisiau ar yr adeg hon. Gallwch chi gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol, neu ddarganfod pa gymorth arall sydd ar gael, er enghraifft, oddi wrth elusennau lleol.

Dementia a gallu meddyliol

Mae edrych ar ôl rhywun â dementia yn ymestynnol yn emosiynol.

Os nad yw eu dementia’n rhy ddatblygedig, anogwch y person hŷn i gynllunio ymlaen llaw er mwyn i bobl eraill gael edrych ar ôl eu buddiannau yn y tymor hir.

Os nad oes gan y person arall alluedd meddyliol rhagor, gallwch chi wneud cais i fod eu ‘dirprwy’.

Mae Cymdeithas Alzheimer (Saesneg un unig) wedi cynhyrchu arweiniad ar gyfer gofalwyr pobl â dementia ac yn cynnig hyfforddiant i ofalwyr.

Trefnu’ch gwasanaethau gofal cartref neu breswyl eich hun

Os oes gan y person hŷn ddigon o arian i dalu am gost eu gofal, gallwch chi drefnu’ch gofal personol (cartref) neu’ch gofal preswyl eich hun. Gwiriwch fod yr asiantaeth ofal neu’r cartref gofal preswyl rydych chi’n dewis wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Diweddariad diwethaf: 09/02/2023