Efallai bod symud i mewn gyda pherthnasau i chi (neu i’r gwrthwyneb) yn edrych fel yr unig ateb os ydych chi’n ei chael yn anodd byw yn annibynnol, neu os ydych chi’n byw yn rhy bell i ffwrdd am ymweliadau mynych.
Yn ddiau, ma eyna fanteision i gael sawl cenhedlaeth yn byw o dan un to – a dyna oedd y drefn arferol yn y gorffennol – ond mae yna anfanteision hefyd.
Peidiwch â gadael i’ch hun gael eich rhuthro i mewn i benderfyniad byddwch chi efallai’n ei ddifaru wedyn.
Mae’n bwysig gadael digonedd o amser i bawb o dan sylw gael amser i feddwl am yr ystyriaethau ymarferol, ariannol ac emosiynol a allai godi, nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r manteision yn amlwg: ni fyddwch yn byw ar eich pen eich hun (llai o bryder i’ch teulu), byddwch yn cael treulio mwy o amser gyda nhw, ac os ydych chi’n ffit ac yn weithgar, byddwch chi o gwmpas i helpu gyda gofal plant ac unrhyw orchwylion eraill yn y tŷ. Efallai y byddwch chi mewn sefyllfa i helpu’n ariannol hyd yn oed, drwy dalu rhent neu fuddsoddi mewn gwelliannau i’r cartref neu eitemau un-tro.
Efallai bod yr anfanteision yn llai amlwg ar y dechrau, ond mae’n bwysig meddwl amdanyn nhw hefyd. Bydd cael rhywun hŷn neu anabl yn symud i mewn i gartref y teulu yn effeithio ar bawb mewn pob math o ffyrdd gwahanol, a hynny am gyfnod hir, gobeithio.
Gallai’r anfanteision gynnwys llai o le, llai o amser i chi eich hun (ac i’ch perthnasau), tyndra a ‘llinellau’ niwlog mewn perthnasoedd ac, os yw’n golygu gwerthu/prynu eiddo, goblygiadau cyfreithiol ac o ran treth.