Er y bydd symud i mewn gyda’ch perthnasau (neu i’r gwrthwyneb) efallai’r ateb gorau i chi i gyd, mae’n dal yn ddoeth ystyried yr holl bethau a allai godi cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.
Ystyriaethau ymarferol
Ystyriaethau ymarferol yw’r rhai hawsaf i’w rhagweld ymlaen llaw. Rhai pethau i’w hystyried yw:
- oes digon o le i bawb fwynhau ychydig o breifatrwydd, e.e. croesawu ymwelwyr ar wahân neu wylio rhaglenni teledu gwahanol?
- byddwch chi i gyd yn rhannu’r prif gartref teuluol neu byddwch chi (neu nhw) yn byw mewn fflat hunan-gynhwysol neu ran ar wahân o’r tŷ?
- sut bydd gorchwylion cartref yn cael eu rhannu? Bydd disgwyl i chi lanhau, coginio neu helpu gyda gofal plant?
- byddwch chi’n byw yn agos ffrindiau ac os na, fyddan nhw’n gallu ymweld, gan aros dros nos efallai?
Ystyriaethau ariannol
Mae arian yn gallu bod yn fater dadleuol ar unrhyw oedran felly mae’n ddoeth gwneud popeth yn glir cyn i chi symud i mewn:
- byddwch chi’n gwerthu’ch cartref chi neu’n prynu un arall gyda’ch perthnasau?
- sut bydd costau’r aelwyd yn cael eu rhannu?
- beth fydd yn digwydd os nad yw’r trefniant yn gweithio?
- os eich eiddo chi ydyw, neu os ydych chi’n gydberchnogion cartref, beth yw’r goblygiadau pe bai angen i chi fynd i mewn i gartref gofal?
- beth fyddai’n digwydd yn achos priodas yn chwalu os bydd angen gwerthu’r cartref teuluol?
Ystyriaethau emosiynol
Rydych chi i gyd eisiau i hyd weithio ond cyn i chi wneud eich penderfyniad terfynol, gofynnwch i’ch hun:
- pa mor dda ydych chi wir yn tynnu ymlaen gyda’ch teulu, eich teulu yng nghyfraith a’u ffrindiau?
- fyddwch chi’n colli’ch cartref eich hun lle gallwch chi wneud beth sy’n eich plesio chi?
- fydd eich teulu yn parchu’ch dymuniadau chi, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cytuno â nhw?
- os bydd angen gofal dyddiol arnoch chi yn y dyfodol, fydd eich perthnasau yn fodlon bod yn ofalwyr i chi? Fyddech chi’n hapus am hyn?
- beth fyddai’n digwydd pe bai amgylchiadau’ch teulu yn newid? Er enghraifft, os bydd rhaid iddyn nhw symud trefi oherwydd swydd newydd?
Eich teulu chi fel gofalwyr
Os ydych chi’n symud i mewn gyda’ch teulu am eich bod chi’n methu edrych ar ôl eich hun, yn y bôn maen nhw’n dod yn ofalwr/gofalwyr i chi ac fel y cyfryw, bydd ganddyn nhw hawl i dderbyn asesiad gofalwyr.
Os yw’ch gofalwr chi rhwng 16 a 65 oed ac yn gofalu amdanoch chi am 35 awr yr wythnos neu fwy, efallai y byddan nhw hefyd yn gallu hawlio Lwfans Gofalwyr (Saesneg yn unig).
D.S. Nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i rywun neu i fyw gyda’r unigolyn rydych chi’n gofalu amdano i hawlio Lwfans Gofalwr (Saesneg yn unig).