Mae llety da yn bwysig i’ch iechyd a’ch synnwyr cyffredinol o lesiant felly mae’n bwysig eich bod chi’n byw yn y lle sy’n gywir i chi, h.y. mewn cartref sy’n bodloni’ch anghenion presennol chi.
Mae byw yn y llety cywir yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i’ch gallu i fyw yn annibynnol neu beidio, i gymdeithasu ag eraill a mwynhau bywyd llawn a gweithgar cyhyd ag sy’n bosibl.
Mae anghenion pobl o ran llety yn aml yn newid dros amser, efallai o ganlyniad i freuder, anabledd neu’r angen am bobl eraill o’u cwmpas i’w cefnogi.
Efallai bod y tŷ tri llawr gyda’r ardd fawr yn addas i anghenion teulu sy’n tyfu, ond gallai fod yn anodd i rywun hŷn sydd â phroblemau symud ei gynnal a’i gadw.
Mae llawer oedolion ifanc ag anableddau yn dewis byw yn annibynnol ac mae tai gwarchod yn eu helpu i wneud hynny.
Gall llety hygyrch sydd wedi ei addasu eich helpu i gadw’ch annibyniaeth, aros yn eich cymuned a dewis sut rydych yn dymuno byw eich bywyd. Mae tai gwarchod a chynlluniau gofal ychwanegol yn cynnig y cydbwysedd rhwng annibyniaeth a chefnogaeth.
Y cartref priodol i chi yw rhywle rydych yn teimlo’n ddiogel, gallwch chi symud o’i gwmpas yn rhwydd, a gallwch chi fyw mor annibynnol â phosibl (gyda thipyn o gefnogaeth os oes ei hangen). Cartref yw rhywle sy’n teimlo’n addas, lle gallwch chi fod yn rhan o’r gymuned (os dyna’ch dymuniad) a chyrraedd y gwasanaethau mae arnoch chi eu hangen yn hawdd, naill ai ar droed, mewn car neu ar gludiant cyhoeddus.
Digartrefedd
Os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref, mae gan eich cyngor lleol rai dyletswyddau cyfreithiol tuag atoch chi, hyd yn oed pan nad oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu llety i chi.