skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae cymorth tai yn helpu pobl sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol yn eu cartref presennol neu symud ymlaen i fyw yn annibynnol.

Ei bwrpas yw atal digartrefedd a helpu pobl i gynnal cartref sefydlog ac addas drwy fynd i'r afael â'u hanghenion cymorth.

Gall cymorth tai gael ei ddarparu i unrhyw un dros 16 oed p’un a ydynt yn byw yn eu cartref eu hun, mewn tai gwarchod, hostel neu fath arall o dai arbenigol.

Mae cymorth ar gael i amrediad eang o bobl gan gynnwys:

  • pobl ag anableddau dysgu
  • pobl â phroblemau iechyd meddwl
  • teuluoedd a benywod hawdd eu niweidio sy’n ceisio lloches rhag camdriniaeth ddomestig
  • pobl â phroblemau cyffuriau a/neu alcohol
  • pobl ag anableddau corfforol neu salwch hirdymor
  • pobl hŷn, gan gynnwys y sawl sy’n fregus
  • pobl ddigartref, gan gynnwys pobl ifanc sengl sy’n ddigartref neu’n ymadael â gofal
  • cyn droseddwyr a’r sawl sydd mewn perygl o aildroseddu

Mae’r gefnogaeth yn amrywio yn ôl amgylchiadau personol ond fe allai gynnwys:

  • rheoli cyllideb/hawlio budd-daliadau
  • sgiliau bywyd sylfaenol, e.e. coginio, glanhau
  • sefydlu a chynnal cartref
  • llenwi ffurflenni
  • cymorth a chyngor emosiynol
  • diogelwch personol
  • ail-afael mewn addysg neu hyfforddiant
  • cydgysylltu â chyrff eraill e.e. gwasanaethau cymdeithasol
  • Dod o hyd i gyflogaeth

Nid oes rhaid i chi fod yn derbyn gwasanaethau gofal cartref (personol) i allu derbyn cymorth tai.

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddysgu mwy am gymorth tai.

Diweddariad diwethaf: 27/04/2023