Os ydych chi’n cael anhawster i ddod o hyd i swydd, wedi colli’ch swydd neu eisiau newid gyrfa, efallai yr ystyriwch fwy o hyfforddiant.
Fel arfer mae hyfforddiant yn cynnwys rhyw fath o ddysgu p’un a yw’n arwain at gymwysterau ffurfiol neu beidio. Mae hyfforddiant yn gallu bod yn rhan-amser neu’n amser llawn, yn seiliedig ar waith neu ddigwydd yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein. Gall hyd yn oed fod yn rhad ac am ddim, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau wedi bodoli ers amser hir gan gyfuno gwaith am dâl gyda hyfforddiant sy’n arwain at gymwysterau cydnabyddedig. Mae tri gwahanol fath o brentisiaeth, sef:
- Prentisiaeth sylfaen
- Prentisiaeth
- Uwch brentisiaeth
- Prentisiaeth gradd
Nid oes unrhyw derfyn oedran uchaf.
Os nad ydych chi am wneud y brentisiaeth lawn, efallai y byddai’n well gennych ddewis un neu fwy o gymwysterau o’r fframwaith cyffredinol. Ewch i Gyrfa Cymru am ragor o wybodaeth.
Cyfleoedd hyfforddiant eraill
Mae Twf Swyddi Cymru yn rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Mae Cymru’n Gweithio yn cynnig cyngor ac arweiniad penodol i bobl gyda chyfleoedd chwilio am waith, hyfforddiant a chyllid. Ffôn: 0800 028 4844 neu cysylltwch â chynghorydd ar-lein.
Mae’n bosibl y bydd cyllid ReAct+ ar gael i’ch helpu gyda chostau hyfforddi neu ailhyfforddi os ydych dros 18 oed, yn byw yng Nghymru a bod gennych yr hawl i fyw a gweithio yn y DU a naill ai:
- rydych o dan rybudd ffurfiol o ddileu swydd
- os ydych wedi colli eich swydd neu wedi cael eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf
- os ydych rhwng 18-24 a ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Am ragor o wybodaeth ewch i Cymru'n Gweithio.
Mae PRIME Cymru yn cefnogi pobl hŷn i ddatblygu sgiliau trwy gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.
Barod am Waith (Camau at Waith o’r blaen)
Mae’r Porth Sgiliau i Oedolion yn gallu helpu os oes angen hyfforddiant arnoch chi i ddychwelyd i gyflogaeth amser llawn neu angen help gyda’ch CV neu gyfweliadau. Cysylltwch â Gyrfa Cymru.
Mae’n bosibl y bydd arian ReAct (Redundancy Action) III ar gael i chi os ydych chi wedi colli’ch swydd yn y tri mis diwethaf (neu wedi cael hysbysiad ffurfiol y byddwch yn colli’ch swydd). Gallech chi dederbyn hyd at £1,500 am hyfforddiant galwedigaethol, ynghyd â chostau teithio, llety a gofal plant.
Bydd staff eich Canolfan Byd Gwaith (Saesneg yn unig) lleol yn gallu dweud wrthych chi am gyfleoedd hyfforddiant eraill.
Cyn-filwyr
Mae Bwrdd Hyfforddi Prydain (Saesneg yn unig) yn cefnogi personél yr heddluoedd a chyn-filwyr i gael eu hyfforddiant a’u sgiliau wedi’u cydnabod gan gyflogwyr sifil yn ogystal â nodi unrhyw fylchau sgiliau a hyfforddiant sydd eu hangen arnynt.
Hyfforddiant busnes
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sefydlu’ch busnes eich hun, mae Busnes Cymru yn gallu darparu arian a chymorth o ran sgiliau. Ffoniwch: 03000 603000.
Cyfleoedd hyfforddi i denantiaid
Mae rhai cymdeithasai tai yn cynnig cyrsiau hyfforddiant i breswylwyr lleol. Mae rhai cyrsiau wedi eu hachredu ac yn cynnig cymwysterau cydnabyddedig. Cysylltwch â’ch cymdeithas tai i ddarganfod beth sydd ar gael.
Oedolion gydag anghenion gofal a chymorth
Os oes gennych chi anghenion gofal a chymorth neu’n edrych ar ôl rhywun ag anghenion o’r fath, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael cefnogaeth i fynychu cwrs hyfforddiant. Mae cyrsiau hefyd sy’n benodol ar gyfer gofalwyr.
Os oes gennych chi anghenion gofal a chymorth, mae’n bosib y byddwch yn gallu cael help gydag unrhyw offer mae arnoch chi ei angen ar gyfer hyfforddiant. Cysylltwch â Gyrfa Cymru.
Gwirfoddoli
Fel gwirfoddolwr mae’n debyg y bydd eich hyfforddiant yn anffurfiol ond byddwch yn dysgu sgiliau newydd o hyd ac yn ennill profiad gwaith gwerthfawr.