skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Er bod cyfraddau diweithdra yn gymharol isel (3.8% ym mis Awst 2022), gall dod o hyd i gyflogaeth addas fod yn anodd o hyd, yn enwedig os ydych yn byw mewn rhan wledig o Gymru neu mewn ardal lle mae’r diwydiannau traddodiadol bron wedi diflannu.

Mae diogelwch swydd yn bennaf yn rhywbeth o’r gorffennol, gyda llawer o bobl heb fawr o ddewis ond i ymfoddloni am lai o oriau nag sydd angen arnynt, a derbyn contractau byr-dymor a chontractau dim oriau. Mae pobl ifanc, yn arbennig, yn gallu ei chael hi’n anodd mynd i mewn i yrfa eu dewis, neu hyd yn oed i ddod o hyd i unrhyw waith amser llawn parhaol o gwbl.

Chwilio am swydd

Er nad yw dod o hyd i'ch swydd delfrydol yn hawdd, mae rhai pethau gallwch chi eu gwneud i roi siawns well i’ch hunan, fel manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant neu fynd yn ôl i addysg i ennill mwy o gymwysterau.

Ceisiwch beidio â chanolbwyntio gormod ar yr hyn rydych chi wir eisiau ei wneud. Mae Gyrfa Cymru yn awgrymu eich bod chi’n siarad â phobl eraill, yn ceisio peidio â chynllunio mwy na thair i bedair blynedd o’ch blaen ac i ymddiried yn eich greddfau.

Os oes gennych chi gymwysterau, sgiliau neu broffesiwn yn barod, mae’n bosibl y byddwch chi’n elwa o hyd ar dipyn o gefnogaeth wrth i chi chwilio am swydd.

Pan fydd eich amgylchiadau’n newid

Mae aros mewn cyflogaeth yn gallu bod yn heriol pan fydd eich amgylchiadau’n newid.

Efallai eich bod chi wedi ysgwyddo dyletswyddau gofalu sy’n effeithio ar eich gallu i weithio’n amser llawn, neu mae gennych chi anabledd neu anhwylder hir-dymor sy’n ei gwneud yn amhosibl i chi wneud eich swydd bresennol.

Mae deddfwriaeth newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar lesiant rhywun, gan gynnwys cymorth i alluogi person sydd ag anghenion gofal a chymorth (a’u gofalwyr) weithio os dyna eu dymuniad.

Mae’n bosibl y bydd angen cymorth ar gyn-filwyr (Saesneg yn unig) hefyd, i hwyluso eu taith yn ôl i fywyd sifil a chyflogaeth.

Os ydych chi’n anabl ac mae gennych chi gynllun gofal a chithau’n dymuno dychwelyd i waith, efallai y byddwch chi’n ystyried defnyddio taliadau uniongyrchol fel y gallwch chi gyflogi cynorthwy-ydd personol i’ch helpu.

Cymorth o fewn y gweithle

Mae’r cynllun Mynediad i Waith (Saesneg yn unig) yn talu am gymorth ymarferol i helpu pobl ag anhwylderau corfforol neu iechyd meddwl i mewn i waith, i aros yn y gwaith neu symud i mewn i hunangyflogaeth (neu gychwyn busnes).

Delio â gwahaniaethu

Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn rhywun am fod ganddyn nhw anabledd – mae hyn yn wir p’un a ydych chi’n chwilio am waith neu’n weithiwr cyflogedig presennol.

Hunan-gyflogaeth

Mae mwy a mwy o bobl yn rhoi’r gorau i rôl draddodiadol cyflogai/cyflogwr i weithio drostynt eu hunain. Os ydych chi’n bwriadu gweithio ar eich liwt eich hun, mae’n rhaid i chi gofrestru fel bod yn hunan-gyflogedig gyda Chyllid y Wlad (Saesneg yn unig). Cysylltwch â Busnes Cymru (Saesneg yn unig) am ragor o wybodaeth.

Mwy o wybodaeth

Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio eich gyrfa, paratoi CV a dod o hyd i/gwneud cais am brentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant. Ffôn: 0800 028 4844

Mae Cymru’n Gweithio yn cynnig cyngor ac arweiniad penodol i bobl gyda chyfleoedd chwilio am waith, hyfforddiant a chyllid. Ffôn: 0800 028 4844 neu cysylltwch â chynghorydd ar-lein.

Diweddariad diwethaf: 21/04/2023