skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Os oes angen cymorth arnoch chi i fyw yn annibynnol ac yn dymuno rheoli’ch bywyd eich hun, mae’n werth ystyried taliadau uniongyrchol.

Gyda thaliadau uniongyrchol, mae eich cyngor lleol yn talu swm y cytunwyd arno i chi yn eich cyfrif banc yn hytrach na threfnu pa ofal a chefnogaeth y byddwch yn ei dderbyn ar eich rhan. Rydych yn defnyddio'r arian hwn wedyn i gyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig i chi yn y ffordd rydych chi'n dewis.

Fel defnyddiwr taliadau uniongyrchol, chi sy’n penderfynu pwy sy’n eich cefnogi a phryd maen nhw’n eich cefnogi, gan roi llawer mwy o hyblygrwydd a dewis i chi am sut i fyw eich bywyd.

Pwy sy’n gallu derbyn taliadau uniongyrchol?

Gall taliadau uniongyrchol gael eu talu i:

  • Oedolion a phobl ifanc dros 16 oed gydag anghenion cymorth a all wneud penderfyniadau drostynt eu hunain
  • unigolyn â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl
  • rhiant anabl sydd angen cymorth i ofalu am eu plentyn/plant
  • gofalwyr 16 oed neu’n hŷn
  • unigolyn sy’n methu â gwneud eu penderfyniadau eu hun (mae taliadau’n cael eu gwneud i unigolyn addas*)

*Fel arfer aelod o’r teulu neu gyfaill agos yw’r unigolyn addas a fydd yn gweithredu er lles gorau rhywun wrth reoli eu gofal. Yn aml (ond nid bob tro) bydd gan yr unigolyn addas Atwrneiaeth i wneud penderfyniadau cyfreithiol ac ariannol ar ran yr unigolyn.

Dechrau taliadau uniongyrchol

Ni allwch chi dderbyn taliadau uniongyrchol ond os ydych chi wedi cael eich asesu fel angen cymorth oddi wrth y cyngor lleol i gyflawni rhai pethau penodol (eich canlyniadau personol) sydd wedi eu pennu yn eich cynllun gofal a chymorth ac mae’ch cyngor lleol wedi cytuno i dalu am ran neu’r cyfan o’r cymorth hwnnw.

Mae taliadau uniongyrchol i gwrdd â'ch anghenion personol (anghenion gofal). Ni allwch eu cael yn unig i ddiwallu eich anghenion gofal iechyd (er y gall y rhain fod yn eilradd).

Rhaid i’ch cyngor drefnu bod taliadau uniongyrchol ar gael i chi ar yr amod eich bod yn fodlon ac yn abl i’w rheoli. Bydd y swm a gewch chi yn seiliedig ar faint o gymorth mae arnoch chi ei angen a chanlyniad eich asesiad ariannol).

Os yw’r cyngor wedi bod yn trefnu’ch gofal a chymorth hyd yma, gallwch chi ofyn am newid i daliadau uniongyrchol ar unrhyw adeg. Mae ond angen gofyn i’ch gweithiwr cymdeithasol. Nid oes rhaid i chi aros tan yr adolygiad nesaf o’ch cynllun gofal a chymorth.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio taliadau uniongyrchol ond os byddwch chi’n gwneud, ni chewch chi eu defnyddio i brynu gwasanaethau oddi wrth gyngor lleol.

Os yw’n well gennych chi, cewch chi ddefnyddio cymysgedd o daliadau uniongyrchol a gwasanaethau a drefnir gan eich cyngor lleol.

Stopio taliadau uniongyrchol

Os newidiwch chi’ch meddwl am ddefnyddio taliadau uniongyrchol, gallwch chi ofyn am eu stopio ar unrhyw adeg a gofyn i’r cyngor lleol ddarparu’ch gwasanaethau cymorth yn eu lle.

Gall eich cyngor lleol stopio’ch taliadau uniongyrchol hefyd os cred nad yw’ch anghenion chi’n cael eu diwallu gyda’r arian neu nad oes gennych chi’r anghenion hynny ragor, e.e. dim ond am gyfnod byr roedd angen cymorth arnoch chi.

Os rhowch y gorau i ddefnyddio taliadau uniongyrchol ac mae gennych chi anghenion cymorth o hyd, bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gwneud yn siŵr bod cynllun gofal yn ei le fel nad oes unrhyw fwlch yn eich gwasanaethau cymorth.

Ysbrydoliaeth i chi

Mae dylunydd graffig Katie, un o ddefnyddwyr cyntaf taliadau uniongyrchol yn y Deyrnas Unedig, wedi cynhyrchu ffilm (Saesneg yn unig) fer sy’n dangos sut mae taliadau uniongyrchol wedi ei helpu hi i astudio, gweithio, lansio ei busnes ei hun a theithio’r byd.

Mae pobl yn Nhor-faen yn dweud (Saesneg yn unig) sut mae taliadau uniongyrchol wedi newid eu bywydau.

Mwy wybodaeth                                  

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ganllaw ar-lein i gyfeirio taliadau ar ei wefan.

Mae Age Cymru hefyd wedi cynhyrchu taflenni cynhwysfawr (Saesneg yn unig) am daliadau uniongyrchol (Chwefror 2021).

Diweddariad diwethaf: 26/04/2023