skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r mwyafrif o ddefnyddwyr taliadau uniongyrchol yn hapus eu bod wedi cymryd y cam tuag at fwy o annibyniaeth. 

Os ydych chi’n dal yn ansicr, efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol eich helpu i wneud eich penderfyniad:

Fydd taliadau uniongyrchol yn effeithio ar fy mudd-daliadau eraill?

Na fydd. Darperir eich taliadau uniongyrchol dim ond i brynu’r gofal mae arnoch chi ei angen. Nid ydynt yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill ac nid ydynt yn cael eu dosbarthu’n incwm trethadwy.

Faint fydda i’n cael fy nhalu?

Bydd swm y taliadau uniongyrchol a gewch chi yn dibynnu ar amcangyfrif o gost y gwasanaethau mae arnoch chi eu hangen i fodloni’ch anghenion sydd wedi cael eu hasesu a chanlyniad eich asesiad ariannol.

Mae hyn yn golygu efallai y gofynnir i chi gyfrannu tuag at gost eich cymorth yn yr un modd â phetai’ch cyngor lleol yn trefnu neu yn darparu’ch gwasanaethau.

Nid oes unrhyw isafswm i’r taliadau uniongyrchol sy’n daladwy i bobl o dan 65 oed a gallwch chi dderbyn taliadau uniongyrchol hyd yn oed os cewch chi un awr yn unig o gymorth yr wythnos.

Os defnyddiwch eich taliadau uniongyrchol i gyflogi cynorthwy-ydd/cynorthwywyr personol bydd y cyngor yn eich talu ar gyfradd sy’n sicrhau y gallwch chi fodloni’ch anghenion a gafodd eu hasesu yn ogystal â chyflawni’ch rhwymedigaethau cyfreithiol fel cyflogwr.

Mae hyblygrwydd y taliadau uniongyrchol yn golygu ei bod yn bosibl addasu faint o'ch taliad uniongyrchol rydych yn ei ddefnyddio o wythnos i wythnos, e.e. gallwch 'fancio' unrhyw daliad nas defnyddiwyd i'w ddefnyddio pan fydd anghenion ychwanegol yn codi.

Fydd rhaid i mi gadw llawer o gofnodion?

Mae rhywfaint o waith papur ynghlwm wrth daliadau uniongyrchol ond peidiwch â chael eich digalonni gan hyn.  Bydd eich tîm taliadau uniongyrchol yn esbonio popeth i chi ac yn cynnig cymorth parhaus.

Gall taliadau uniongyrchol gael eu gwario dim ond fel a gytunir yn eich cynllun gofal a chymorth a bydd angen i chi ­– neu rywun ar eich rhan – gadw cofnodion o sut mae’r arian wedi cael ei wario.

Rhaid i chi wario'r holl arian a roddwyd i chi ar eich anghenion cymorth a nodwyd. Os na wnewch chi, efallai y bydd y cyngor yn penderfynu bod eich angen am ofal a chymorth yn is nag yr oedd yn credu ac yn lleihau’r swm rydych chi’n ei dderbyn. 

Beth os byddaf yn newid fy meddwl?

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn taliadau uniongyrchol, gallwch chi eu dechrau pryd bynnag y dymunwch chi – a’u stopio hefyd.

Mwy o wybodaeth

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ganllaw ar-lein i gyfeirio taliadau ar ei wefan.

Mae Age Cymru hefyd wedi cynhyrchu taflenni cynhwysfawr (Saesneg yn unig) am daliadau uniongyrchol (Chwefror 2021).

Mae gwefan Diverse Cymru yn cynnwys adran gynhwysfawr am daliadau uniongyrchol (Saesneg yn unig).

Mae'r Canllaw Treth Anabledd yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol am gyflogai yng Nghymru a Lloegr (Ebrill 2022).

Mae Carers UK yn darparu gwybodaeth am daliadau uniongyrchol ar gyfer gofalwyr.

Diweddariad diwethaf: 24/04/2023