Mae cynorthwy-ydd personol yn ofalwr sy’n cael ei dalu a gyflogir yn uniongyrchol gan yr unigolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth, neu aelod o’u teulu.
Os dymunwch gael hyblygrwydd a rheolaeth dros eich bywyd, efallai y byddwch chi’n ystyried cyflogi cynorthwy-ydd personol, naill ai’n breifat neu gyda chymorth ariannol gan eich cyngor lleol ar ffurf taliadau uniongyrchol.
Beth ydy cynorthwy-ydd personol yn ei wneud?
Mae’n bosibl i’ch cynorthwy-ydd personol ymwneud â llawer o agweddau er eich bywyd, o’ch helpu gyda’ch anghenion gofal personol i’ch hebrwng chi ar deithiau siopa, achlysuron cymdeithasol a gwyliau. Un fantais fawr yw mai chi sy’n cael dewis yr oriau y bydd eich cynorthwy-ydd yn gweithio yn hytrach na derbyn cymorth ar adegau penodedig o’r dydd.
Gall llawer o bobl anabl astudio, gweithio, cymdeithasu a byw yn annibynnol gyda chymorth un neu fwy o gynorthwywyr personol.
Ni fydd cynorthwywyr personol yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan ond byddant yn cynnig y cymorth a’r anogaeth i chi gymryd rheolaeth dros eich bywyd a’i fyw i’r llawnaf.
Mynd yn gyflogwr
Os ydych chi’n cyflogi cynorthwy-ydd personol, mae’n bwysig cofio mai chi fydd yn ysgwyddo’r cyfrifoldebau ymarferol a chyfreithiol fel cyflogwr. Mae hyn yn wir a ydych chi’n talu eu cyflog gyda’ch arian eich hun neu drwy daliadau uniongyrchol.
Nid yw cyflogi cynorthwyydd personol yr un peth yn ymgysylltu â gwasanaethau asiantaeth ofal. Pan fyddwch yn cyflogi cynorthwyydd personol, chi sy'n gorfod cydymffurfio â deddfwriaeth cyflogaeth, e.e. talu o leiaf yr isafswm cyflog.
Pa fath o help oes ei angen arnoch chi?
Mae’r math o gymorth a ddarperir gan gynorthwy-ydd personol yn amrywio’n fawr iawn felly meddyliwch yn ofalus am y math o help mae arnoch chi ei angen cyn dechrau chwilio am rywun.
Mae’n debyg y bydd cynorthwy-ydd personol yn gallu eich helpu gydag un neu fwy o’r canlynol:
- gofal personol, e.e. ymolchi, baddo, gwisgo
- dringo i mewn i’r gwely a chadeiriau ac allan ohonynt
- defnyddio’r toiled
- tylino ac ymarfer
- help gyda meddyginiaeth
- tasgau cartref, e.e. coginio, siopa
- cael gafael ar wybodaeth, e.e. darllen negeseun e-bost, ymateb i lythyrau
- bancio, talu biliau, hawlio budd-daliadau, ac ati
- gweithgareddau hamdden, e.e. cymdeithasu, dosbarthiadau, gwyliau
Os oes gennych chi anghenion lefel uchel, mae’n bosib y bydd angen cyflogi mwy nag un cynorthwy-ydd personol a threfnu eu horiau gweithio yn unol â hynny. Cewch eich cefnogi i wneud hyn.
Hyd yn oed os nad ydych chi’n derbyn taliadau uniongyrchol oddi wrth eich cyngor lleol, cewch chi ofyn am eu cymorth i ddod o hyd i gynorthwy-ydd personol.
Gwybodaeth a chyngor
Mae Disability Rights UK yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol (Saesneg yn unig) am faint dylech chi ei dalu’ch cynorthwy-ydd personol yn dibynnu a ydyn nhw’n byw i mewn neu allan - a'r goblygiadau cyfreithiol o ddod yn gyflogwr.
Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru wybodaeth ddefnyddiol am ddefnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi cynorthwyydd personol.
Y PA Pool (Saesneg yn unig) a Being the Boss (Saesneg yn unig) yn wefannau defnyddiol ar gyfer unrhyw un sy’n cyflogi cynorthwy-ydd personol.