skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae llawer o fanteision i recriwtio eich cynorthwy-ydd personol eich hun. Bydd gennych chi reolaeth lwyr dros bwy sy’n gweithio i chi, yr oriau sy’n cael eu gweithio a’r tasgau mae’n eu gwneud.

Os ydych chi’n derbyn taliadau uniongyrchol, cewch eich cefnogi drwy’r broses recriwtio a cewch chi’r wybodaeth mae arnoch chi ei hangen i fod yn gyflogwr da. Hefyd byddwch chi’n derbyn help i ddelio ag unrhyw broblemau a all godi.

Cofiwch, cewch chi ofyn am gymorth a chyngor gan eich cyngor lleol o hyd, hyd yn oed os ydych chi’n talu am eich cynorthwy-ydd personol eich hun.

Beth mae arnoch chi ei angen mewn cynorthwy-ydd personol?

Bydd gan gynorthwywyr personol sgiliau a phrofiad eang felly mae’n ddefnyddiol ystyried rhai o’r canlynol ymlaen llaw:

  • eich anghenion chi fel maent wedi eu hamlinellu yn eich cynllun gofal a chymorth
  • faint o gynorthwywyr personol mae arnoch chi eu hangen
  • pryd rydych chi am iddyn nhw weithio
  • beth rydych chi am iddyn nhw ei wneud
  • faint gallwch chi fforddio eu talu ((rhaid iddo fod yr isafswm cyflog o leiaf)
  • ydy hi’n bwysig ai dyn neu fenyw ydy’ch cynorthwy-ydd
  • profiad a chymwysterau, e.e. cymorth cyntaf argyfwng, hyfforddiant symud a thrin
  • sgiliau ymarferol, e.e. trwydded yrru, coginio
  • eich anghenion diwylliannol, ieithyddol a chrefyddol
  • a ydych chi’n bwriadu cynnal gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
  • a ydych chi’n bwriadu gofyn am dystlythyrau (y peth arferol ydy gofyn am ddau)

Dewis yn ofalus

Byddwch chi’n treulio cryn dipyn o amser gyda’ch cynorthwy-ydd/ cynorthwywyr personol felly mae’n bwysig peidio â rhuthro ac i gymryd amser i ddewis rhywun byddwch chi’n tynnu ymlaen yn dda gyda nhw.

Mae’r cynorthwywyr personol gorau:

  • yn ddibynadwy ac yn brydlon
  • yn fodlon trafod unrhyw broblemau wrth iddyn nhw godi
  • yn parchu’ch preifatrwydd
  • yn gallu cadw cyfrinachau
  • yn broffesiynol eu hymagwedd
  • yn ystyriol o’ch hawl i urddas, parch ac annibyniaeth
  • yn parchu’ch eiddo a’ch cartref chi

Hysbysebu’r swydd

Gallwch chi hysbysebu’r swydd mewn llawer o wahanol ffyrdd:

  • ar lafar – efallai eich bod chi’n adnabod rhywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw a fyddai â diddordeb mewn dod yn gynorthwyydd personol i chi (os ydych chi’n defnyddio taliadau uniongyrchol, fel arfer ni all hyn fod yn aelod o’ch teulu)
  • eich Canolfan Byd Gwaith leol (am ddim) neu mewn papur newydd lleol
  • gwefan darparwr cymorth eich taliadau uniongyrchol (efallai mai eich cyngor lleol fydd hyn)
  • tudalennau swyddi gwefannau rhad ac am ddim fel LinkedIn (Saesneg yn unig) neu gumtree.com (Saesneg yn unig)
  • gwefannau arbenigol fel PA Pool (Saesneg yn unig)

Chi a/neu’ch teulu biau’r penderfyniad terfynol am bwy rydych chi’n eu cyflogi.

Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Bydd eich cynorthwy-ydd/cynorthwywyr personol yn treulio llawer o amser yn eich cartref felly mae’n rhaid i chi allu ymddiried ynddyn nhw.  Am hynny, mae’n werth talu am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Defnyddio asiantaeth

Os nad ydych chi’n dymuno cyfweld a chyflogi rhywun yn uniongyrchol, efallai y byddai’n well gennych gymryd eich cynorthwy-ydd personol ymlaen drwy asiantaeth gofal cartref.

Yr asiantaeth fydd yn delio â’r holl with papur a’r taliadau gan gynnwys y gwiriad DBS, ond bydd yn codi ffi uwch yr awr arnoch chi na phe baech chi’n cyflogi rhywun eich hunan.

Bydd gan eich tîm cymorth taliadau uniongyrchol restr o’r asiantaethau gofal cartref sydd wedi eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Fel arall, gallwch chi chwilio am wasanaethau gofal cartref eich hunan gan ddefnyddio cyfeiriadur ar-lein yr Arolygiaeth.

Mwy wybodaeth

Mae Pwll PA wedi cynhyrchu canllaw o'r enw Recriwtio Cynorthwyydd Personol (Saesneg yn unig).

Diweddariad diwethaf: 13/04/2023