skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’n gallu bod yn anodd cyfaddef nad ydych chi’n ymdopi â gweithgareddau arferol bob dydd cystal ag oeddech chi unwaith.

Efallai eich bod chi’n ei chael yn anodd dringo i mewn i’r baddon ac allan ohono, neu’n cael anhawster paratoi prydau bwyd syml neu wisgo yn y bore. Efallai eich bod chi’n anghofio cymryd eich meddyginiaeth.

Hyd yn oed os ydych chi’n ei chael yn anodd gwneud tasgau bob dydd fel hyn, nid yw’n golygu na allwch chi barhau i fyw yn ddiogel ac yn annibynnol gartref gyda’r lefel gefnogaeth briodol.

Cael help gan y gwasanaethau cymdeithasol

Mae gan gynghorau lleol ddyletswydd i ddarparu gofal a chymorth i’r sawl sydd ei angen ac i’r gofalwyr sy’n eu cefnogi.

Byddan nhw’n edrych ar eich amgylchiadau ac yn darganfod beth yn eich barn chi sy’n bwysig i’ch lles.

Yna byddan nhw’n ystyried beth allwch chi ei wneud dros eich hunan a pha gymorth a chefnogaeth mae arnoch chi eu hangen i sicrhau eich lles.

Eich cefnogi chi gartref

Gall gwasanaethau gofal personol gael eu darparu yn eich cartref eich hun (gan gynnwys mewn tai gwarchod neu gynllun gofal ychwanegol) neu mewn lleoliad gofal preswyl.

Cynnal safonau gofal uchel

Os ydych chi’n derbyn gwasanaethau cymorth yn eich cartref eich hun, efallai y clywch chi weithwyr gofal yn cyfeirio atynt fel gofal cymunedol neu wasanaethau gofal cartref.

Mae gwasanaethau cartref (personol) yn wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio, sy’n golygu eu bod wedi eu cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac yn cael eu harolygu ganddynt yn rheolaidd. 

Talu am wasanaethau gofal personol

Yn wahanol i ofal nyrsio, nid yw gofal personol yn rhad ac am ddim ym man ei ddarparu. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol, mae’n bosibl y bydd eich cyngor lleol yn codi tâl arnoch. Yng Nghymru, mae uchafswm tâl wythnosol ar gyfer gofal cartref a serivces gofal cymdeithasol di-breswyl eraill. Mae hyn yn golygu na fydd gennych chi hyd yn oed os oes gennych gynilion dros £24,000, na fydd gofyn i chi dalu mwy na £100 yr wythnos (Medi 2022).

Mae Age Cymru wedi cyhoeddi canllaw o'r enw Talu am ofal a chymorth yn y cartref yng Nghymru (Saesneg yn unig). 

Taliadau uniongyrchol

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal personol a chefnogaeth ariannol tuag at eu cost, efallai y byddai’n well gennych drefnu’ch gwasanaethau eich hunan. Bydd taliadau uniongyrchol yn caniatáu mwy o ddewis a rheolaeth i chi dros y gwasanaethau rydych chi’n eu derbyn, er enghraifft gan adael i chi gyflogi cynorthwy-ydd personol.

Cymorth byr-dymor

Nid peth anghyffredin yw angen gofal personol am gyfnod byr, e.e. pan fyddwch wedi cael llawdriniaeth neu wedi bod yn sâl. Mae gwasanaethau ailalluogi yn helpu i’ch rhoi chi’n ôl ar eich traed ar ôl cwymp, salwch neu ddamwain ac fel arfer maent yn rhad ac am ddim; fodd bynnag, mae angen i chi gael eich atgyfeirio at y gwasanaeth gan weithiwr cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol.

Diweddariad diwethaf: 17/04/2023