skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Dogfen ysgrifenedig yw cynllun gofal a chymorth sy’n nodi’r hyn sydd wedi cael ei drafod â chi yn ystod asesiad a beth sy’n mynd i ddigwydd o ganlyniad.

Dylech chi fod wedi cymryd rhan lawn yn eich asesiad, felly dylai’ch cynllun gofal a chymorth fod yn glir iawn am:

  • beth rydych chi eisiau ei gyflawni – eich canlyniadau personol
  • beth sy’n eich atal – y rhwystrau a risgiau
  • a oes angen gwybodaeth a chyngor arnoch chi
  • pa gymorth arall rydych chi’n ei dderbyn, er enghraifft, gan aelod o’r teulu
  • pa wasanaethau cymunedol allai’ch helpu
  • pa ofal a chymorth gaiff eu darparu gan y gwasanaethau cymdeithasol a’u partneriaid*
  • sut caiff eich cynnydd ei fonitro
  • dyddiad eich adolygiad nesaf

*O Ebrill 2016 ymlaen, rhaid i’r cyngor lleol a gwasanaethau iechyd lleol benderfynu ar y cyd a yw’ch pecyn gofal a chymorth yn bodloni’ch canlyniadau lles personol, gan gynnwys eich lles emosiynol, cymdeithasol ac economaidd.

Os bydd eich amgylchiadau lleol

Rhaid i’ch cynllun gofal gael ei adolygu’n gyson a rhaid peidio â’i gau heb ailasesiad o’ch amgylchiadau.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft, mae’ch gofalwr amser llawn yn dymuno dychwelyd i’r gwaith, rhaid i’r cyngor ailasesu’ch anghenion a newid eich cynllun gofal yn unol â hyn.

Eich amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod

Os bydd y cyngor yn credu eich bod mewn risg o gamdriniaeth neu esgeulustod, rhaid iddo fodloni’ch anghenion gofal a chymorth.

Taliadau uniongyrchol 

Os ydych chi wedi penderfynu eich bod eisiau defnyddio taliadau uniongyrchol i fodloni rhai neu bob un o’ch anghenion, rhaid i’ch cynllun gofal a chymorth nodi:

  • pa anghenion sydd i’w bodloni drwy daliadau uniongyrchol
  • y swm y byddwch chi’n ei dderbyn
  • pa mor aml y caiff taliadau uniongyrchol eu gwneud i chi

Beth os nad ydych chi’n cytuno?

Os byddwch chi’n anghytuno ag asesiad y cyngor o sut y gall eich helpu, mae gennych chi’r hawl i wrthod y cynllun gofal a chymorth – neu i gwyno am yr asesiad ei hun.

Os ydych chi’n dal yn anhapus gyda’r cyngor, gallwch chi gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Diweddariad diwethaf: 27/04/2023