Eich cartref yw lle rydych chi’n dymuno teimlo’n gysurus ac yn ddiogel, lle gallwch chi dreulio amser gyda’ch ffrindiau a’r teulu, a gorffwys pan fyddwch chi wedi blino neu’n dost.
Mae’n debyg eich bod yn dymuno aros yn eich cartref eich hun cyhyd ag y bo’n ddiogel ac yn bosibl gwneud hynny, efallai gyda thipyn o gefnogaeth gan y teulu neu asiantaethau allanol.
Mae hynny’n debyg o fod yn wir p’un a ydych chi’n oedolyn anabl ifanc, yn dioddef problemau iechyd meddwl neu’n heneiddio ac yn ei chael hi’n anodd gwneud popeth roeddech chi’n arfer ei wneud.
Efallai eich bod yn darparu gofal di-dâl i aelod o’r teulu neu ffrind ac angen cymorth i barhau’n ofalwr iddyn nhw.
Hyd yn oed os nad oes angen help arnoch chi y funud yma, mae’n gallu bod yn gysur gwybod pa fath o gymorth allai fod ar gael os bydd arnoch chi ei angen yn y dyfodol.
Mae’r math o eiddo rydych chi’n byw ynddo yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Efallai y penderfynwch chi addasu’ch cartref presnenol er mwyn i chi gael symud yn gwmpas yn haws, gan osod canllawiau neu ramp efallai. Efallai y byddwch chi’n meddwl hefyd am symud i eiddo mwy addas, rhywle ar un lefel o bosib neu lle mae pobl eraill o gwmpas.
Os ydych chi’n cael anawsterau wrth wneud rhai tasgau personol, fel baddo neu baratoi prydau bwyd, mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal personol oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol, yn dilyn asesiad o’ch anghenion. Efallai y penderfynwch chi ei bod yn werth talu rhywun i’ch helpu o gwmpas y tŷ.
Mae defnydd a fforddadwyedd cynyddol technoleg i’ch helpu yn helpu mwy o bobl hŷn ac anabl i fyw yn annibynnol. Hefyd mae amrediad enfawr o gymhorthion byw bob dydd y gallwch chi eu prynu neu eu llogi i’ch helpu gyda gweithgareddau bob dydd fel cerdded, baddo a pharatoi bwyd.
Mae teimlo’n unig yn gallu cael effaith hirdymor a negyddol iawn ar iechyd a lles rhywun. Y newyddion da yw bod digonedd o bethau gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw – a chyrff ac elusennau i helpu.
Yn olaf, os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwestiynau am arian a materion cyfreithiol mae llawer o gyrff sy’n gallu cynnig cymorth a chyngor i chi am hawlio budd-daliadau, lleisio’ch barn a chynllunio am y dyfodol.