Mae’n gallu bod yn anodd cyfaddef eich bod yn cael anawsterau gyda thasgau bob dydd o gwmpas y cartref.
Efallai eich bod chyn heneiddio, yn weddw neu’n byw yn annibynnol am y tro cyntaf ond yn ei chael hin anos nag oeddech chi’n disgwyl. P’un ai’r biniau ailgylchu sy’n euch rhwystro, neu ddim ond cadw’ch cartref yn lân, mae digonedd o gymorth ar gael.
Os ydych chi’n methu â pharatoi’ch prydau bwyd eich hun oherwydd breuder, afiechyd neu anabledd, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol, yn dibynnu ar asesiad o anghenion. Mae sawl elusen yn darparu gwasanaethau fforddiadwy i bobl hŷn a phobl anabl e.e. cymorth gyda gwaith tŷ a chynnal a chadw’r cartref a garddio.
Os ydych chi’n cael anhawster yn rhoi’ch biniau allan, beth am gysylltu â’r cyngor i weld a oes modd i chi gael rhai llai o faint?
Mae rhai cynghorau ac asiantaethau yn cynnig cynllun cymorth casglu i bobl sy’n methu â chario eu blychau ailgylchu i ymyl y ffordd.
Nid yw cynghorau’n rhoi help gyda thasgau cartref, ond os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun ac yn ei chael yn anodd ffitio tasgau cartref o amgylch eich rôl ofalu, mae’n werth gofal am asesiad gofalwr.
Nod gwasanaeth Cydymaith Cymunedol y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (Saesneg yn unig) yw cysylltu unigolyn hŷn sy’n byw yn annibynnol â rhywun sy’n byw gerllaw, a fydd yn galw heibio am sgwrs ac efallai’n rhoi help llaw gyda thasgau bach fel casglu presgripsiwn neu newid bwlb golau.