skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae marwolaeth rhywun rydym ni’n ei garu yn un o’r profiadau mwyaf trallodus y bydd yn rhaid i’r rhan fwyaf ohonom ymdopi ag ef erioed.

Mae pobl yn ymateb i brofedigaeth mewn ffyrdd gwahanol, ond gall galar effeithio arnoch chi’n emosiynol, yn gorfforol ac yn feddyliol.

Hyd Mae marwolaeth rhywun rydym ni’n ei garu yn un o’r profiadau mwyaf trallodus y bydd yn rhaid i’r rhan fwyaf ohonom ymdopi ag ef erioed.

Yn ogystal â’ch galar, efallai y bydd rhaid i chi ymdopi â newid mawr yn eich amgylchiadau, fel byw ar eich pen eich hun neu boeni am arian a biliau.

Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw

Y peth cyntaf i’w wneud pan fydd rhywun yn marw yw cofrestru eu marwolaeth – mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn pum diwrnod.

Mae Helpwr Arian yn cynnig arweiniad cam wrth gam i beth i’w wneud os bydd rhywun yn marw.

Am gyngor ar beth i’w wneud mewn sefyllfaoedd penodol, ewch i Ar ol Marwolaeth (Saesneg yn unig).

Hefyd mae ffilm fer (Saesneg yn unig) defnyddiol sy’n esbonio beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw.

Cwnsela profedigaeth

Weithiau mae’n gallu bod yn haws sôn am eich teimladau wrth ddieithryn ac mae cwnsela’n helpu yn aml, hyn yn oed pan fydd eich galar yn teimlo’n orlethol.

Mae Cruse (Saesneg yn unig) yn cynnig gwasanaeth cwnsela cyfrinachol a rhad ac am ddim am brofedigaeth. Llinell gymorth: 0808 808 1677.

Mae Marie Curie a Diverse Cymru yn darparu cymorth profedigaeth i bawb yng Nghymru. Ffôn: 0800 090 2309.

Yn y ffilm (Saesneg yn unig) fer hon, mae pobl mewn profedigaeth yn siarad amddod i delerau â’u colled.

Taliadau profedigaeth

Pan fydd rhywun agos atoch chi’n marw, y peth olaf rydych chi eisiau poeni amdano yw arian, felly mae’n gysur gwybod bod cymorth ariannol (Saesneg yn unig) ar gael gan gynnwys cymorth gyda chostau angladd. Bydd yr hyn rydych chi’n gymwys i’w dderbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau e.e. efallai y cewch fwy os oes gennych chi blant neu os ydych chi'n feichiog.

Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor ar sut i hawlio budd-daliadau profedigaeth a faint y gallech ddisgwyl ei dderbyn.

Cymorth i dalu am angladd

Os yw’ch incwm yn isel a byddwch chi’n ei chael yn anodd talu am angladd eich anwylyn, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn taliad angladd (Saesneg yn unig). Bydd y swm a gewch chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Yn fwy na thebyg gofynnir i chi ad-dalu’r arian os byddwch chi’n etifeddu ystâd y sawl sydd wedi marw (os oes ganddynt ystâd) yn nes ymlaen.

Pan fydd baban marw-anedig neu blentyn sydd wedi marw, mae llawer o drefnwyr angladdau, gweinyddwyr a chlerigwyr yn peidio â chodi tâl (serch hynny, mae yna gostau eraill mewn perthynas ag angladd i’w talu).

Diweddariad diwethaf: 13/04/2023