Math o therapi yw cwnsela sy’n eich annog chi i siarad am eich problemau a’ch teimladau yn gyfrinachol.
Mae cwnsela yn gallu bod o gymorth mewn llawer o sefyllfaoedd, gan gynnwys pan fydd gennych chi:
Bydd cwnsler hyfforddedig yn gwrando arnoch chi ac yn eich helpu i ddelio ag unrhyw feddyliau a theimladau negyddol sydd gennych chi drwy eich annog i siarad am yr hyn sy’n eich poeni a dod â’ch teimladau i’r wyneb.
Er y gall un sesiwn fod yn ddefnyddiol weithiau, mae cwnsela yn tueddu i fod yn fwyaf buddiol pan fydd yn rhychwantu sawl sesiwn, dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd.
Mae gan GIG 111 Cymru fwy o wybodaeth am gwnsela ar ei wefan.
Cymorth ffôn ac ar-lein
Nid oes rhaid i gwnsela ddigwydd wyneb yn wyneb o reidrwydd – erbyn hyn mae rhai cwnselwyr yn cynnig sesiynau dros y ffôn, drwy’r e-bost neu drwy wefan.
Dod o hyd i gwnsler
Mae Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) (Saesneg yn unig) yn un o gyrff mwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer cwnsela a seicotherapi. Mae gan y wefan adran dda (Saesneg yn unig)) hefyd sy'n egluro beth mae cwnsela yn ei gynnwys, beth mae therapyddion yn ei wneud a sut y gallan nhw eich helpu.