skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Trwy gydol ein bywydau, rydym yn ffurfio llawer o wahanol fathau o berthnasoedd - â phartneriaid, teulu a ffrindiau. Mae rhai perthnasoedd yn fyrdymor, tra bod eraill yn gallu para am oes. 

Yn aml mae perthnasoedd rhwng pobl o wahanol rywiau, oedrannau a galluoedd, pob un â’i bersonoliaeth, credoau a safbwynt ei hun. Nid yw’n rhyfedd y gall fod yn eithaf heriol aros ar delerau da â phawb drwy’r amser.

Mae cyfnodau da a chyfnodau gwael ym mhob perthynas; nid yw ambell i ddadl yn golygu nad oes gobaith i’r berthynas neu nad yw’n iach, dim ond eich bod chi’n ddau berson sy’n bwysig i’ch gilydd ond heb gytuno ar bob dim.

Parch a gonestrwydd tuag at eich gilydd yw nodwedd bwysicaf perthynas iach. Rydych chi’n mwynhau treulio amser gyda’ch gilydd ac yn fodlon cefnogi’ch gilydd drwy amserau da a drwg. Rydych yn ystyried anghenion y person arall yn ogystal â’ch anghenion eich hun.

P’un a ydych chi’n ffrindiau, yn gariadon neu’n deulu – dylai perthynas iach ddod â mwy o hapusrwydd nag anhapusrwydd i’ch bywyd. Dylai’ch cymar wneud i chi deimlo’n dda am eich hun, nid yn euog, yn ddig, yn isel nac yn ofidus.

Weithiau mae ysgwyddo rôl edrych ar ôl rhywun arall yn gallu effeithio ar y berthynas rhwng y ddau ohonoch chi felly mae’n bwysig chwilio am gymorth yn eich rôl ofalu.

Nid yw perthnasoedd iach yn cynnwys brwydrau am bŵer ac nid yw’r naill berson na’r llall yn ceisio rheoli’r hyn mae’r llall yn ei wneud. Cofiwch na ddylai neb byth eich gorfodi i wneud rhywbeth nad ydych chi eisiau ei wneud neu sy’n gwneud i chi deimlo’n anghysurus.

Wrth gwrs, nid oes unrhyw obaith am rai perthnasoedd o’r cychwyn er nad yw’r naill berson na’r llall yn mynd ati i drin y llall yn wael. Mae gwrthdrawiad personoliaethau rhwng dau berson yn sefyllfa wahanol iawn i fod mewn perthynas gamdriniol.

Nid oes unrhyw le am gamdriniaeth mewn unrhyw berthynas, boed yn bersonol neu’n broffesiynol. Os ydych chi’n cael eich cam-drin mae’n bwysig gofyn am gymorth, yn arbennig os bydd eich diogelwch chi yn y fantol.

Os ydych chi wedi cael eich cam-drin neu os oes perthynas afiach wedi effeithio arnoch chi’n emosiynol, efallai y byddai o gymorth i chi chwilio am gwnsela.

Os ydych chi mewn perthynas oedolion, mae’n bwysig hefyd eich bod chi’n gofalu am eich iechyd rhywiol, gan gynnwys atal cenhedlu ac osgoi afiechydon a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).

Diweddariad diwethaf: 02/06/2016