skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Dwedir bod camdriniaeth yn digwydd pan fydd hawliau rhywun – hawliau dynol a sifil – yn cael eu torri gan berson (neu fwy nag un person) arall mewn ffordd sy’n arwain at niwed iddynt. Gall y niwed hwn fod yn gorfforol, yn rhywiol, yn ariannol neu’n emosiynol. Mae peidio ag ymateb i anghenion rhywun sy’n methu gofalu am eu hanghenion eu hun yn fath o gamdriniaeth ynddi ei hun sy’n cael ei alw’n ‘esgeulustod’.

Mae camdriniaeth o unrhyw fath yn annerbyniol, ond nid yw bob amser yn hawdd adnabod yr arwyddion a’r peryglon.

Mae rhai pobl yn dioddef wrth ddwylo’r sawl sylen nhw allu ymddiried ynddyn nhw – eu teulu, eu gofalwyr, neu’r gweithwyr proffesiynol sy’n cael eu talu i edrych ar eu hôl. Gall y gamdriniaeth ddigwydd yng nghatrefi pobl eu hun, mewn cartrefi gofal, mewn ysbytai, mannau gofal dydd a lleoliadau preswyl eraill.

Weithiau bydd y sawl sy’n cael ei gam-drin efallai’n sylweddoli bod yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw’n anghywir ond yn teimlo eu bod yn methu neu’n ofni codi eu llais.

Os yw’r sawl sy’n cam-drin mewn sefyllfa pŵer, efallai bod y dioddefwyr yn ofni na fydd neb yn eu credu.

Gallai’r gamdriniaeth ddigwydd unwaith, e.e. ymosodiad rhywiol neu enwaedu benyw, neu efallai ei bod yn parhau, weithiau am flynyddoedd.

Beth i’w wneud os ydych chi’n amau bod rhywun yn cael eu cam-drin

Cyfrifoldeb pawb yw diogelu plant ac oedolion rhag camdriniaeth.

Os ydych chi’n amau bod plentyn neu oedolyn yn cael eu cam-drin, rhowch wybod am eich pryderon ar unwaith (nid oes rhaid gadael eich enw). Peidiwch ag aros nes eich bod 100% yn sicr - gallai fod yn rhy hwyr.

Ffoniwch yr heddlu ar 101 neu cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os yw’ch pryderon yn ymwneud â phlentyn oedran ysgol, gofynnwch am gael siarad ag athro/athrawes amdiffyn plant d(d)ynodedig yr ysgol.

Mae gan weithwyr cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i ymchwilio i unrhyw bryderon am blentyn neu rywun ifanc o dan 18 oed os byddan nhw’n dod yn ymwybodol bod risg iddyn nhw o gamdriniaeth neu esgeulustod.

Mae deddfwriaeth ddiweddar yn gosod dyletswydd ar bob cyngor yng Nghymru i wneud ymholiadau os bydd amheuaeth am gamdriniaeth yn ymwneud ag oedolyn sydd ag anghenion gofal a chymorth.

Gwefan i Gymru gyfan yw Live Fear Free sy’n darparu cyngor am gamdriniaeth, sut i’w hadnabod a phwy i droi atyn nhw am gymorth.

Diweddariad diwethaf: 27/02/2023