skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae teimlo’n ddiogel yn eich cymuned yr un mor bwysig â theimlo’n ddiogel tu mewn i' ch cartref.

Ychydig o bwynt sydd mewn gwneud eich eiddo’n ddiogel os ydych chi’n gwbl anfodlon camu tu allan rhag ofn y cewch chi’n lladrata neu eich bwrw gan gar sy’n goryrru.

Er na fyddai neb yn gwadu bod trosedd yn bodoli a bod damweiniau’n digwydd, mae yna ddulliau o wella’ch diogelwch personol a’ch hyder. Mae’n bwysig eich bod chi’n teimlo’n ddiogel ble bynnag rydych chi’n byw achos fel arall mae ofn y byddech chi’n tueddu i guddio i ffwrdd gartref a thorri’ch hun i ffwrdd rhag pobl eraill.

Cyhyd â’ch bod yn synhwyrol ac yn cymryd ychydig o ragofalon, nid oes unrhyw reswm pam na ddylech chi aros yn berffaith ddiogel pan fyddwch chi allan ac o gwmpas y lle.

Diogelwch personol

Peidiwch â gwneud eich hun yn darged amlwg i ladron. Arhoswch mewn mannau prysur, wedi eu goleuo’n dda a chadwch eich eiddo tu allan i’r golwg. Tynnwch arian o beiriannau arian parod tu mewn i siopau os oes modd a mynnwch archebu tacsis o gwmnïau cofrestredig bob tro.

Goleuadau diogelwch

Os ydych chi’n byw mewn eiddo dau dalcen neu’n defnyddio’r fynedfa gefn yn rheolaidd, bydd ychydig o oleuadau diogelwch wedi eu lleoli’n ofalus nid yn unig yn gwella’ch diogelwch chi – ond byddant yn ei gwneud yn fwy diogel i’ch ymwelwyr gyrraedd eich eiddo.

Dod i adnabod eich cymdogion

Os ydych chi’n byw mewn pentref neu dref, dewch i adnabod eich cymdogion. Mae’r mwyafrif o bobl yn ddigon cyfeillgar os ydych chi’n cychwyn sgwrs. A phan fyddwch chi ar delerau cyfeillgar, mae’n siŵr y byddwch chi’n cadw llygad ar les eich gilydd.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol a chymdogion niwsans

Mae anghydfodau rhwng cymdogion yn gallu bod yn anodd eu datrys, yn arbennig pan fydd y ddau barti yn credu mai nhw sy’n gywir. Mae cerddoriaeth uchel, cŵn sy’n cyfarth a materion parcio yn gallu peri anghytundeb rhwng pobl sy’n byw yn agos at ei gilydd ond nid ydynt o reidrwydd yn gyfystyr ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ceisiwch ddatrys y mater yn anffurfiol cyn cynnwys eich landlord a/neu’r heddlu.

Galw’n ddiwahoddiad

Mae galw’n ddiwahoddiad yn ddigon drwg dros y ffôn ond mae’n gallu bod yn frawychus pan fydd rhywun yn sefyll ar garreg eich drws yn mynd ati i werthu rhywbeth i chi. Mae Parthau Dim Galw Diwahoddiad yn gweithredu’n arfau ataliol mewn ardaloedd lle mae trosedd carreg y drws neu fwrgleriaeth drwy dynnu sylw wedi bod yn broblem.

Mae Safonau Masnach yn cynnig y cyngor hwn ar gyfer delio â galwyr diwahoddiad.

Am fwy o wybodaeth siaradwch â swyddogion safonau masnachu eich cyngor lleol (Saesneg yn unig).

Gwarchod Cymdogaeth

Mae cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth yn creu cymunedau cryf lle gall pobl fwynhau ansawdd bywyd da yn rhydd rhag trosedd. Ei nod yw na ddylai neb deimlo ofn, yn ddiamddiffyn nac yn ynysig yn eu cymuned.

I wybod a oes cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn eich ardal chi, ewch i Our Watch (Saesneg yn unig).

Plismona cymunedol

Mae cyfarfodydd Partneriaethau a Chymunedau Gyda’i Gilydd (PACT) yn cael eu cynnal yn rheolaidd ledled ardaloedd awdurdodau heddlu ac mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i fynychu ac amlygu pa broblemau lleol sy’n cael effaith negyddol ar ansawdd eu bywyd, e.e. ymddygiad anghymdeithasol tu allan i siopau lleol, neu draffig sy’n goryrru. 

Dysgwch pryd mae’ch cyfarfod PACT agosaf (sydd weithiau’n cael eu galw’n ‘gymorthfeydd’) yn digwydd:

Gwybodaeth a chyngor

Dysgwch fwy am yr ardal rydych chi’n byw ynddi neu wybodaeth am atal troseddau drwy fynd i www.police.uk (Saesneg yn unig).

Hefyd gallwch chi weld pa droseddau a gafodd eu hadrodd yn eich ardal cod post (Saesneg yn unig) chi ac, os oes ymchwiliad, sut mae’n dod yn ei flaen.

Mae gan Gwarchod y Gymdogaeth ddigonedd o awgrymiadau ar atal trosedd ar ei wefan.

Mae Age Cymru yn cynhyrchu taflen am ymddygiad gwrthgymdeithasol (Saesneg yn unig) a sut i ddelio ag ef.

Mae’r Sefydliad dros Bobl ag Anableddau Dysgu yn cyhoeddi arweiniad hawdd ei ddarllen o’r enw Staying Safe Out and About (Saesneg yn unig).

Diweddariad diwethaf: 04/05/2023