Rydym i gyd yn gwybod sut mae’n teimlo pan mae arnoch chi angen rhywun i jest sgwrsio â nhw, i rannu rhywbeth doniol gyda nhw neu i rwgnach pan fydd bywyd yn taflu ei waethaf atoch chi.
Mae llawer o bobl hŷn, yn arbennig, yn agored i arwahanrwydd cymdeithasol neu unigedd, efallai am fod eu teulu wedi symud i ffwrdd neu mae eu cymar a’u ffrindiau wedi marw. Mae’n bosibl bod diffyg cludiant, problemau iechyd neu incwm isel yn cyfrannu at y broblem.
Mae Age UK wedi yn amcangyfrif bod mwy na miliwn o bobl hŷn yn y Deyrnas Unedig yn mynd am fis neu fwy heb weld na siarad â neb.
Wrth gwrs, mae unigedd yn gallu effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran; gall newid mewn amgylchiadau rhywun arwain rhywun a oedd unwaith yn berson cymdeithasgar yn rhywun sy’n mynd am ddyddiau neu fwy hyd yn oed heb unrhyw gysylltiad dynol.
Yn aml gall anaf corfforol, cyfnod hir o salwch neu anhwylder meddygol fel iselder neu dementia dorri rhywun i ffwrdd o’r byd tu allan.
Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun, efallai y byddwch chi’n teimlo’n ynysig yn eich rôl ofalu a bod angen seibiant arnoch chi i fynd allan a gweld ffrindiau.
Os ydych chi’n teimlo’n unig, mae’n bwysig dweud wrth rywun sut rydych chi’n teimlo. Mae amrediad o gynlluniau cyfeillio ar gael yn dibynnu ar eich oedran a ble rydych chi’n byw (nid yw pob un o’r cynlluniau ar gael ym mhobman yng Nghymru).
Nid yw’n syndod bod llawer o bobl erbyn hyn yn chwilio am gefnogaeth gan ffrindiau newydd maen nhw'n eu gwneud ar-lein. Mae’r manteision yn amlwg: gallwch chi gysylltu â phobl sy’n mynd drwy brofiadau tebyg i’ch rhai chi, dim ots ble yn y byd maen nhw’n byw. Mae llawer o elusennau yn y DU wedi sefydlu fforymau lle gall pobl anabl a phobl hŷn gefnogi ei gilydd heb adael eu cartrefi. Cofiwch bob tro i aros yn ddiogel ar-lein a pheidiwch â rhannu’ch manylion personol chi â dieithriaid.
Weithiau mae clywed llais rhywun arall ar ben arall y ffôn yn ddigon. Mae llawer o elusennau’n cynnal llinellau cymorth sy’n cael eu staffio gan wirfoddolwyr sy’n aros am eich galwad. Mae rhai ar gyfer grwpiau defnyddwyr penodol, e.e. mae’r Silver Line (Saesneg yn unig) yn llinell gymorth rad ac am ddim i bobl hŷn.