Mae’r rhyngrwyd wedi gweddnewid y ffordd mae pobl yn byw, ac mae llawer o bobl yn gwneud y rhan fwyaf o’u bancio, siopa a gweithredoedd ariannol eraill ar eu cyfrifiadur.
Allwch chi byth fod yn 100% ddiogel ar-lein – neu’n unrhyw le – ond mae rhai pethau i’w cadw mewn cof er mwyn peidio â dioddef troseddau ar-lein.
Rhagofalon syml
Byddwch yn ofalus gyda phwy rydych chi’n rhannu’ch gwybodaeth, yn arbennig gwybodaeth bersonol a manylion bancio. Os teimlwch chi’n reddfol bod rhywbeth o’i le, rhowch y gorau i’r sgwrs neu’r weithred yn y fan a’r lle.
Dewiswch gyfrineiriau nad ydyn nhw’n amlwg i bawb sy’n eich adnabod; cadwch nhw’n ddiogel ac i ffwrdd o lygaid craff. Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus neu un sy’n cael ei rannu, cliciwch ‘na’ os bydd gwefan yn cynnig cofio’ch manylion mewngofnodi neu fancio.
Os cewch e-bost neu neges destun gan eich banc neu CThEM gyda dolen ynddo, peidiwch byth â chlicio arno. Os ydych chi’n meddwl y gallai’r e-bost/testun fod yn ddilys – neu os nad ydych chi’n siŵr – mewngofnodwch i’ch cyfrif yn y ffordd arferol i wirio.
Ffrindiau i ffrindiau
Mae safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fel Facebook (Saesneg yn unig), Twitter (Saesneg yn unig) ac Instagram (Saesneg yn unig) yn boblogaidd am resymau amlwg - mae sgwrsio ar-lein gyda’r teulu, ffrindiau a dieithriaid o’r un bryd yn llawer o hwyl.
Byddwch yn wyliadwrus am rannu gormod o wybodaeth bersonol, e.e. mae cyhoeddi galwad i rywun bwydo’ch cath tra byddwch chi ar eich gwyliau yn y bôn yn hysbysebu’r ffaith y bydd eich cartref yn wag.
Pennwch osodiadau preifatrwydd er mwyn i ddim ond pobl rydych chi wir yn eu hadnabod allu gweld eich postiadau – nid eu ffrindiau nhw neu ffrindiau eu ffrindiau.
Fforymau ar-lein
Mae’r mwyafrif o bobl sy’n defnyddio ystafelloedd sgwrsio a fforymau ar-lein yn ddiffuant ac yn gefnogol i’w gilydd. Ond cyn i chi rannu gwybodaeth bersonol, cofiwch na allwch chi byth fod yn gwbl siŵr pwy rydych chi’n siarad â nhw. Os bydd rhywun yn gwneud i chi deimlo’n anesmwyth, rhowch y gorau i siarad â nhw.
Dwyn hunaniaeth
Mae’r rhyngrwyd wedi gwneud dwyn hunaniaeth yn llawer haws. Mae Action Fraud yn awgrymu camau syml i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol.
- Byddwch yn ofalus am roi gwybodaeth bersonol i unrhyw un nad ydych yn eu hadnabod – rhowch y lleiaf posibl ar gyfryngau cymdeithasol (a byth eich dyddiad geni neu’ch cyfeiriad)
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf tair llythyren neu fwy, sy’n cynnwys priflythrennau a llythrennau bach, rhifau a symbolau - maen nhw’n galetach i’w trechu
- Peidiwch ag ymateb i negeseuon e-bost di-wahoddiad, gan gynnwys rhai sy’n honni bod oddi wrth eich banc yn dweud bod pryder bod eich cyfrif wedi cael ei dargedu gan dwyllwyr (cast cyffredin yw hwn i’ch twyllo chi)
- Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrifiadur a phob dyfais symudol wedi eu hamddiffyn gan gyfrinair.
Seiberfwlio
Nid yw’n syndod bod bwlïau wedi croesawu’r rhyngrwyd fel rhywle lle gallan nhw fynd ar ôl eu fictimau dydd a nos. Nid yw seiberfwlio wedi ei gyfyngu i blant a phobl ifanc chwaith. Yn aml ni trolau, fel maen nhw’n cael eu galw, yn adnabod eu fictimau ond maen nhw’n gallu gwneud eu bywydau’n druenus. Rhowch wybod i’r safle o dan sylw am seiber-fwlio bob tro – ac os ydych chi’n cael eich bygwth, cysylltwch â’r heddlu.
Gwybodaeth a chyngor
Mae Get Safe Online (Saesneg yn unig) yn cynnig llawer o gyngor ymarferol am sut i’ch amddiffyn eich hun rhag llawer o’r problemau gallech chi ddod ar eu traws ar-lein.
Action Fraud yw canolfan adrodd genedlaethol y DU am dwyll a throsedd ar y rhyngrwyd. Ffoniwch: 0300 123 2040 neu adroddwch y peth ar-lein.
Mae gan Silversurfers.com (Saesneg yn unig) amrediad o arweiniadau.