Mae’n anodd dychmygu amser pan nad oedd technoleg a chyfrifiaduron yn dominyddu’n bywydau ni – gartref, yn y gwaith ac yn ystod ein hamser hamdden.
Mae mwy a mwy ohonom yn gweithio ar-lein, yn siopa ar-lein, yn bancio ar-lein ac yn cymdeithasu ar-lein. Weithiau mae’n ymddangos y byddai’r byd yn dod i ben yfory petai rhywun yn tynnu’r plwg.
Er ei bod efallai’n teimlo weithiau nad oes unrhyw ddianc rhag technoleg, mae llawer o fanteision i ddefnyddio ffôn clyfar a bod yn hyddysg mewn cyfrifiaduron.
Does dim dwywaith bod y rhyngrwyd wedi gweddnewid y ffordd mae pobl yn cyfathrebu â’n gilydd. Y dyddiau hyn, mae hi yr un mor rhwydd sgwrsio â’ch ŵyr yn Awstralia ag y mae i sgwrsio â’ch cymydog drws nesaf.
Gwneud y cysylltiadau
Mae llawer o bobl yn cwrdd â ffrindiau o’r un bryd ar-lein, gan ddefnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol di-dâl fel Facebook (Saesneg yn unig), Twitter (Saesneg yn unig), Whats App (Saesneg yn unig), Instagram (Saesneg yn unig) a Reddit (Saesneg yn unig) neu ymuno â fforymau ar-lein. Erbyn hyn mae gan y mwyafrif o gyrff dudalen Facebook lle maent yn rhannu newyddion a gwybodaeth.
Mynediad am ddim i’r rhyngrwyd
Nid oes angen y rhyngrwyd arnoch gartref i gadw mewn cysylltiad. Mae gan y rhan fwyaf o lyfrgelloedd gyfrifiaduron y gallwch eu defnyddio am ddim (gwiriwch a oes angen archebu ymlaen llaw) ac mae mwyafrif y busnesau a darparwyr trafnidiaeth yn darparu wifi am ddim i gwsmeriaid. Nid oes tâl fel arfer (er efallai y bydd angen i chi ofyn am gyfrinair).
Cychwyn
Os ydych chi'n gwbl newydd i gyfrifiaduron, mae digon o help ar gael i'ch helpu chi ar-lein a sgwrsio. Mae canolfannau cymunedol yn aml yn cynnal cyrsiau sgiliau digidol a TG i ddechreuwyr. I gael gwybod beth sydd ar gael, ewch i wefan Gyrfa Cymru.
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru i wneud yn siŵr nad oes neb yn cael ei adael ar ôl wrth i fwy a mwy o wasanaethau fynd ar-lein. Mae cymdeithion digidol gwirfoddol yn helpu pobl hŷn i ddysgu sgiliau digidol.
Mae gan BBC Webwise (Saesneg yn unig) ddigonedd o wybodaeth i’ch helpu i wella’ch sgiliau digidol, gan gynnwys arweiniadau ysgrifenedig a fideos byr. Mae cyngor am ddiogelwch ar-lein a chadw’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel hefyd.
Mae gan Learn my Way (Saesneg yn unig) gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim i helpu pobl i ddysgu sgiliau digidol ac aros yn gysylltiedig (ac yn ddiogel).
Mae gan Silver Surfers rai erthyglau gwych (Saesneg yn unig) ar gyfer pobl dros 50 oed am sut i wneud y mwyaf o apiau rhwydweithio cymdeithasol amrywiol ac aros yn ddiogel ar-lein.
Gall RNIB Cymru helpu pobl ddall neu â golwg rannol i ddefnyddio cyfrifiaduron a chael cyrchu’r rhyngrwyd. Llinell gymorth: 0303 123 9999 neu anfonwch e-bost at cymru@rnib.org.uk.