skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Nid dim ond pobl ifanc sy'n gwneud ffrindiau ar-lein bellach. Mae grym cyfryngau cymdeithasol a’r llawer o fforymau arbenigol yn golygu y gall pawb fynd ati i sgyrsio.

Y peth gwych am fynd ar-lein yw nad oes rhaid i chi gyfyngu’ch sgyriau a’ch cyfeillgarwch i bobl sy’n byw gerllaw.

Y peth allweddol yw aros yn ddiogel a pheidio â rhoi’ch gwybodaeth bersonol i bobl nad ydych chi wedi cwrdd â nhw wyneb i wyneb. Fel arfer mae’n well peidio â defnyddio’ch enw go iawn.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae’n debyg mai Facebook (Saesneg yn unig) yw’r safle rhwydweithio cymdeithasol mwyaf poblogaidd. Mae defnyddwyr yn cael aros mewn cysylltiad â ffrindiau a’r teulu ledled y byd, yn ogystal ag ymuno â grwpiau o bobl sy’n rhannu’n un diddordebau, e.e. hobïau, gyrfaoedd, ac ati. Mae modd cyfyngu pwy sy’n gweld eich negeseuon/lluniau ac anfon negeseuon preifat.

Lawrlwythwch app Messenger (Saesneg yn unig) i gadw mewn cysylltiad ar eich dyfais symudol.

Mae Twitter (Saesneg yn unig) yn galluogi rhannu gwybodaeth a chyfryngau; ond mae angen i chi gadw’ch negeseuon i ddim ond 280 o gymeriadau (gan gynnwys y gofodau). Mae hashtags, er enghraifft #Cymru #Gofalwyr, yn gadael i chi chwilio am bynciau mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw. Mae Twitter yn ffordd dda o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion, gwleidyddiaeth a chlebran am enwogion.

Fforymau

Mae fforymau’n tueddu i ganolbwyntio ar un pwnc a thros amser greu cymuned ar-lein lle bydd aelodau’n postio cwestiynau a chael atebion a sylwadau oddi wrth aelodau eraill. Mae yna fforymau am bron pob pwnc dan haul. Mae ond angen chwilio am bwnc sydd o ddiddordeb i chi, cofrestru ar y fforwm a chyflwyno’ch hun. Cyn bo hir bydd cylch mawr newydd o ffrindiau gennych chi.

 

Diweddariad diwethaf: 05/04/2023