skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Weithiau, oherwydd yr amgylchiadau rydych chi’n methu gweld eich teulu a’ch ffrindiau mor aml ag y byddech chi’n hoffi. Efallai eu bod nhw wedi symud i ffwrdd, yn brysur gyda’u teulu neu eu gyrfa nhw neu efallai bod eich teulu a’ch ffrindiau agosaf wedi marw.

Mae’n bosib eich bod chi’n edrych ar ôl rhywun neu’n treulio llawer o amser ar eich pen eich hun gartref o ganlyniad i afiechyd neu anabledd. Neu efallai eich bod chi’n byw mewn ardal wledig lle mae’r diffyg cludiant cyhoeddus yn ei gwneud hi’n anodd i chi fynd allan a theithio.

Mae ar bawb angen pobl eraill o gwmpas weithiau felly os ydych chi’n mynd am ddyddiau, neu hyd yn oed fwy, heb weld neu siarad â neb, mae’n bryd gwneud rhywbeth amdani.

Beth yw cyfeillio?

Fel arfer bydd cynlluniau cyfeillio yn paru un gwirfoddolwr ag unigolyn a allai fel arall fod mewn perygl o fo dyn unig yn gymdeithasol. Bydd eich cyfeillachwr yn ymweld â chi gartref, yn mynd â chi allan yn gymdeithasol neu’n eich ffonio chi’n rheolaidd yn dibynnu ar y cynllun unigol.

Mae amrywiol brosiectau cyfeillio i bobl sydd mewn amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys pobl hŷn a hoffai gwrdd ag eraill i gymdeithasu a chynlluniau cyfeillio dros y ffôn i bobl eraill sydd efallai’n teimlo’n ynysig neu’n unig, ar ôl cyfnod o afiechyd neu brofedigaeth o bosib.

Hefyd mae cynlluniau cyfeillio i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu i gymryd rhan yn y gweithgareddau maen nhw’n eu mwynhau, gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon a hamdden.

A chofiwch, mae’ch cyfeillachwr yn rhywun sy’n mwynhau cwrdd a siarad â phobl llawn gymaint ag ydych chi. 

Mae amrediad o gynlluniau cyfeillio ar gael yn dibynnu ar eich oedran ac ymhle rydych chi’n byw (nid yw pob cynllun ar gael ym mhob man yng Nghymru).

Nid oes unrhyw dâl i ymuno ag unrhyw gynllun.

Diweddariad diwethaf: 14/04/2016