Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun ac yn methu mynd allan cymaint ag yr hoffech chi, efallai ei bod hi’n anodd i chi gadw mewn cysylltiad â’ch teulu a ffrindiau.
Mae pawb mor brysur y dyddiau hyn y gall hyd yn oed cadw mewn cysylltiad dros y ffôn neu gyfryngau cymdeithasu fod yn fwy anodd nag y bu hi. Os ydych chi’n colli clywed llais cyfeillgar ar ben arall y ffôn, beth am edrych i mewn i gyfeillio dros y ffôn?
Beth yw cyfeillio ffôn?
Y syniad yw y bydd gwirfoddolwr cyfeillgar yn eich ffonio chi am sgwrs reolaidd ar adeg sy’n gyfleus i’r ddau ohonoch chi. Nid oes unrhyw dâl.
Caiff y gwirfoddolwr ei ddewis yn ofalus fel bod gennych chi rywbeth yn gyffredin, er enghraifft, rydych chi’n byw yn yr un ardal neu’n rhannu diddordeb.
Y prif reswm maen nhw’n eich ffonio yw i gael sgwrs braf, gyfeillgar; ond weithiau mae’n bosib y bydd y gwirfoddolwr yn gallu’ch helpu chi i fanteisio ar gefnogaeth arall.
Pobl hŷn
Mae Age Cymru (Saesneg yn unig) yn cynnig gwasanaethau cyfeillio dros y ffôn am ddim o’r enw ‘Call in Time’ (Saesneg yn unig) (mae’n bosib y caiff y gwasanaeth ei ddarparu gan gyrff gwahanol mewn rhai rhannau o Gymru).
Mae'r elusen hefyd yn trefnu galwadau grŵp am bobl hŷn sy'n rhannu cefndir morwrol neu Airforce Brenhinol.
Oedolion iau
Mae rhai elusennau’n trefnu cyfeillio ffôn neu grwpiau cymdeithasol dros y ffôn ar gyfer oedolion iau sydd mewn perygl o fynd yn ynysig.
Er enghraifft mae’r RNIB yn darparu grwpiau ffôn cymdeithasol (Saesneg yn unig) am ddim lle gall pobl ddall neu â golwg rhannol wneud ffrindiau, sgwrsio a chefnogi ei gilydd (mae grwpiau’n sgwrsio bob wythnos am tua 55 munud).