Mae eich cartref chi’n bwysig. Mae’n lloches rhag y byd tu allan a dyma’r lle byddwch chi’n croesawu’ch teulu a ffrindiau. Eich cartref yw lle gallwch chi ymlacio, bod eich hunan a theimlo’n ddiogel.
Ond nid felly y mae hi i bawb.
Os na allwch chi fynd allan yn rheolaidd, efallai am eich bod chi’n fregus neu’n anabl, neu os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun arall, efallai bod eich cartref yn dechrau teimlo’n fwy fel carchar.
Yn lle teimlo’n unig ac yn ynysig , beth am fynd ati i weld a oes unrhyw gynllunio cyfeillio neu glybiau cinio yn eich ardal chi? Hyd yn oed os yw’ch teulu chi yn byw milltiroedd i ffwrdd - neu mewn gwlad wahanol - mae llawer o bobl, sy’n aml yn byw ar eu pen eu hun ac mewn sefyllfa debyg, a fyddai’n mwynhau eich cwmni chi.
Os oes gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd, beth am ystyried gwneud ffrindiau ar-lein neu ymuno ag un neu fwy o’r llawer o fforymau ar-lein.
Os gallwch chi fynd allan a symud o gwmpas, mae digonedd o ffyrdd o wneud ffrindiau newydd gan gynnwys grwpiau a chlybiau a gweithgareddau eraill.
Efallai eich bod chi’n teimlo’n unig ond yn anhapus am fod pobl eraill yn gwneud penderfyniadau drosoch chi a ddim yn gwrando ar yr hyn rydych chi ei eisiau. Os felly, mae pobl sy’n cael eu galw’n ‘eiriolwyr’ sy’n gallu eich helpu i’ch llais chi gael ei glywed.
Efallai eich bod chi’n byw gyda rhywun sy’n gormesu neu’n ymddwyn yn dreisgar neu’n ymosodol tuag atoch chi. Efallai eich bod wedi dioddef ymosodiad rhywiol neu wedi eich gofyn i wneud pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n anghysurus. Os ydych chi’n cael eich cam-drin neu’n meddwl bod ymddygiad rhywun tuag atoch chi efallai’n gamdriniol, mae’n bwysig gofyn am gymorth. Cofiwch fod llawer o gyrff sy’n gallu helpu. Os ydych chi mewn perygl dybryd, ffoniwch 999 bob tro.
Ni all neb fod yn hapus gartref drwy’r amser, ond mae digon gallwch chi ei wneud i’ch atal rhag teimlo’n anhapus.