Mae’r mwyafrif o bobl yn cymryd yn ganiataol bod eu cartref yn rhywle diogel – nes i rywbeth ddigwydd sy’n ysgwyd eu hyder. Y realiti yw eich bod chi’n debycach o fod mewn damwain gartref nag mewn unrhyw fan arall.
Rhan o’r broblem yw nad yw pobl yn meddwl am eu cartrefi fel lleoedd peryglus ac felly’n cymryd siawnsiau o ran diogelwch, er enghraifft, ymgymryd â thasgau trydanol yn lle hurio trydanwr.
Maen nhw’n gadael drysau a ffenestri ar agor ac yn creu peryglon baglu ym mhobman.
Yn ffodus, mae llawer o gyngor ar gael am sut i aros yn ddiogel yn eich cartref.
Diogelwch y cartref
Bachu cyfle y mae’r mwyafrif o fyrgleriaid o dai - mae lladron yn sylwi ar ffenestri a drysau cefn sydd ar agor, neu’n gweld allweddi car yn hongian o fewn cyrraedd rhwydd i ddrws neu ffenestr. Cymerwch gamau diogelwch syml i leihau risgiau trosedd a byrgleriaeth pan fo rhywbeth arall wedi tynnu’n sylw.
Osgoi damweiniau
Mae’n bosibl osgoi’r mwyafrif o ddamweiniau cartref drwy gynnal eich cartref yn briodol a chadw llygad allan am arwyddion perygl, er enghraifft, arogl nwy neu gyfarpar trydanol sy’n mynd yn boeth.
Defnyddiwch grefftwyr cofrestredig i wneud gwaith nwy a thrydan a byddwch yn ymwybodol o arwyddion gwenwyno carbon monocsid.
Mae cwympo gartref yn gallu cael effeithiau dinistriol i rywun hŷn neu fregus achos yn aml bydd cwymp yn fan cychwyn dirywiad cyffredinol yn ei iechyd a’i allu i fyw yn annibynnol.
Nid yw cwympo yn rhan anochel o henaint ac mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i leihau risg cwympo gartref.
Erbyn hyn mae llawer o bobl a fyddai fel arall yn methu â byw yn annibynnol yn cael eu cadw’n ddiogel gartref gyda chymorth ‘technoleg gynorthwyol’ sy’n cynnwys cymhorthion cof a synwyryddion symud personol.
Mae gan y Gymdeithas Frenhinol Atal Damweiniau (Saesneg yn unig) lawer o arweiniad am ddiogelwch cartref ar ei gwefan, gan gynnwys adrannau am ddiogelwch cartref cyffredinol (Saesneg yn unig), diogelwch pobl hŷn (Saesneg yn unig) a diogelwch cynhyrchion (Saesneg yn unig).