skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Peidiwch byth â diystyru perygl nwy. Mae’r risgiau diogelwch nwy yn cynnwys gollyngiadau nwy, tanau, ffrwydradau a gwenwyno carbon monocsid

Gall cyfarpar nwy sy’n cael eu gosod, eu hatgyweirio neu eu cynnal a chadw gan bobl anghyfreithlon neu ddigymhwyster fod yn farwol.

Mae gan Gas Safe (Saesneg yn unig) gyngor defnyddiol ar ei wefan, gan gynnwys gwybodaeth i grwpiau hŷn (Saesneg yn unig) a hawdd eu niweidio (Saesneg yn unig), e.e. pobl ddall. Mae hanesion (Saesneg yn unig) go iawn o’r hyn a all fynd o’i le, gyda chanlyniadau trasig weithiau.

Gwiriadau diogelwch nwy

Os ydych chi’n rhentu’ch eiddo, o dan y gyfraith mae’n ofynnol i’ch landlord gynnal gwiriad diogelwch nwy bob blwyddyn ar bob cyfarpar nwy a ffliw. Dylech chi dderbyn cofnod o’r dystysgrif diogelwch nwy o cyn pen 28 diwrnod ar ôl yr archwiliad.

Os ydych chi’n berchen ar eich eiddo, efallai y byddwch chi’n gymwys i dderbyn gwiriad diogelwch nwy am ddim os ydych chi’n rhywun hŷn, yn anabl, os oes gennych chi broblem iechyd hirdymor neu os ydych chi dan 18 oed ac yn derbyn budd-dal ar sail prawf modd. Cysylltwch â’ch darparwr nwy am fwy o wybodaeth.

Cofrestr Gas Safe

Rhestr swyddogol o beirianwyr nwy sydd wedi cofrestru i weithio’n ddiogel ac yn gyfreithlon gyda nwy yw Cofrestr Gas Safe (Saesneg yn unig) (mae’n disodli cofrestriad CORGI). Defnyddiwch y gofrestr i ddod o hyd i beiriannydd nwy cymwys yn eich ardal chi neu i wirio a ydy rhywun wedi cofrestru i weithio gyda nwy. Ffoniwch: 0800 408 5500.

Mae pob peiriannydd cofrestredig yn cario cerdyn adnabod Cofrestr Gas Safe sy’n dangos y math o waith mae wedi cymhwyso i’w wneud. Mae gan bob cerdyn adnabod rif unigryw arno, y gallwch chi ei wirio ar-lein.

Beth i’w wneud os byddwch chi’n arogleuo nwy

Ffoniwch y Llinell Gymorth Argyfwng Nwy bob tro ar 0800 111 999.

Diweddariad diwethaf: 25/09/2015